Coca-Cola

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Coca Cola)
Coca-Cola
Sefydlwyd8 Mai 1886
PerchnogionThe Coca-Cola Company
Gwefanhttps://www.coca-cola.com/, https://www.cocacolanederland.nl, https://www.cocacolabelgium.be/, https://nl.coca-cola.be/, https://www.coke.com/, https://www.coca-cola.co.uk, https://www.yourcoca-cola.co.uk/, https://www.coca-cola.hu/, https://www.cocacolaespana.es/ Edit this on Wikidata
Logo Coca-Cola
Potelu ffatri o Coca-Cola Canada Ltd 8 Ionawr, 1941. Montréal, Canada.

Diod cola yw coca-cola a gafodd ei greu gan The Coca-Cola Company o Atlanta, Georgia ac a adnabyddir, fel arfer, dan yr enw Coke sydd wedi ei gofrestru fel marc-cwmni yn yr Unol Daleithiau. Hwn ydy diod cola mwyaf poblogaidd y byd, a chystadleuwr cryf iddo yw Pepsi.

Hanes y cwmni[golygu | golygu cod]

World of Coca-Cola, Las Vegas, Nevada
World of Coca-Cola, Las Vegas, Nevada

Crewyd y cwmni ym 1886 gan John S. Pemberton. Bwriad y cwmni oedd cynnig rhywbeth gwahanol i "alcohol" yn ystod y cyfnod pan y gwaharddwyd alcohol (Prohibition) yn yr Unol Daleithiau.

Yn ystod yr "Ail Ryfel Byd", roedd yn anodd iawn allforio'r ddiod i'r Almaen. Dyma un o'r rhesymau dros greu'r ddiod newydd 'Fanta'.

Yn y 1980au newidiwyd fformiwla'r ddiod a rhoddwyd enw newydd arni, sef "New Coke". Roedd nifer o bobl yn casau'r cola newydd, ac o ganlyniad crewyd "Coke Clasurol" gan y cwmni.

Mae'r cwmni yma yn creu amrywiaeth o ddiodydd eraill.

Nadolig - Y Siôn Corn Coch[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd llun o Siôn Corn gan y cwmni yn ystod gaeafau 1930au.[1][2] Credir i hyn gael dylanwad mawr ar ddiwylliant America, gan helpu creu'r ddelwedd o Siôn Corn sy'n adnabyddus i ni heddiw. Yn ystod y 1980au a'r 1990au, ymddangosodd y Siôn Corn Coch unwaith eto ar hysbysebion teledu Nadolig Coca Cola.

Cynwysyddion[golygu | golygu cod]

Enw Lansiwyd Daeth i ben Nodyn neu ddau Llun
Coca-Cola 1886 Y fersiwn wreiddiol o Coca-Cola.
Caffeine-Free Coca-Cola 1983 Coca-Cola heb gaffin.
Coca-Cola Cherry 1985 Ar gael yn Canada o 1996. Galwyd ef yn "Cherry Coca-Cola (Cherry Coke)" yng Ngogledd America hyd at 2006.
New Coke/"Coca-Cola II" 1985 2002 Ar gael yn Yap ac Samoa Americanaidd
Coca-Cola with Lemon 2001 2005 Ar gael yn y rhan fwyaf o wledydd
Coca-Cola Vanilla 2002; 2007 2005; Ar gael yn: Awstralia, Tsieina, Ostria, yr Almaen, Seland Newydd, Sweden, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Cafodd ei ail gyflwyno ym Mehgefin 2007 oherwydd pwysau gan y cwsmer.
Coca-Cola with Lime 2005 Ar gael yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Singapor, Canada, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.
Coca-Cola Raspberry Mehefin 2005 Diwedd 2005 Cyflwynwyd i Seland Newydd yn unig, i gychwyn. Bellach ar gael yn yr Unol Daleithiau ers 2009.
Coca-Cola Black Cherry Vanilla 2006 Canol 2007 Disodlwyd gan Vanilla Coke ym Mehefin 2007
Coca-Cola Blāk 2006 Cychwyn 2008 Dim ond ar gael yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Canada, y Wladwriaeth Czeck, Bosnia a Herzegovina, Bwlgaria a Lithuania
Coca-Cola Citra 2006 Ar gael yn Bosnia a Herzegovina, Seland Newydd a Japan.
Coca-Cola Orange 2007 Ar gael yn y DU a Gibraltar am gyfnod byr. Caiff ei werthu yn yr Almaen, Awstria a'r Swistir gyda'r label Mezzo Mix. Ar gael yn yr Unol Daleithiau ers 2009.

Brandiau eraill[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barbara Mikkelson and David P. Mikkelson, "The Claus That Refreshes," snopes.com, Chwefror 27, 2001 . Adalwyd Mehf. 10, 2005. Nodyn:WebCite
  2. See George McKay 'Consumption, Coca-colonisation, cultural resistance—and Santa Claus', in Sheila Whiteley, ed. (2008) Christmas, Ideology and Popular Culture. Edinburgh University Press, tud. 50–70.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]