Caraoce
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | gêm deulu, gweithredu |
---|---|
Math | singback |
Yn cynnwys | canu, sound recording process |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurf o adloniant rhyngweithiol neu gêm fideo a ddatblygwyd yn Siapan a'r Ffilipinau yw caraoce neu karaoke (/ˌkæriˈoʊki/ Japanese: [kaɾaꜜoke] (gwrando) カラオケ (cyfuniad o'r geiriau Siapanaeg kara 空 "gwag" a ōkesutora オーケストラ "cerddorfa")) ble ceir cantorion amatur yn cyd-ganu â cherddoriaeth sydd wedi'i recordio (fideo cerddoriaeth) gan ddefnyddio meicroffon.
Mae'r gerddoriaeth fel arfer yn fersiwn offerynnol o gân boblogaidd, adnabyddus. Mae'r geiriau'n cael eu dangos ar sgrin fideo, ynghyd â symbol sy'n symud, newid mewn lliw, neu ddelweddau fideo i helpu'r person neu bersonau sy'n canu.