CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd
Logo CUP | |
---|---|
Ideoleg | Asgell-chwith Gwrth-gyfalafol Annibyniaeth Ffeministaidd Amgylcheddol Rhynwladoldeb |
Sefydlwyd | 1986 |
Gwefan | http://www.cup.cat/ |
Mae CUP - Candidatura d'Unitat Popular – (Ymgeiswyr Undod y Bobl) yn blaid wleidyddol Catalanaidd asgell chwith, ffeministaidd, amgylcheddol yn gefnogol i annibyniaeth i’r Països Catalans (Y Gwledydd Catalanaidd)[1].
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol, mae eu holl benderfyniadau yn cael eu cymryd gan yr aelodau mewn cynulliadau ac nid gan yr arweinwyr yn unig. Maent hefyd yn cyhoeddi ar eu gwefan faint o arian mae’r eu seneddwyr yn ennill a faint maen nhw’n cyfrannu i’r Blaid.[2][3]
Mae’r CUP wedi ennill seddi ar nifer o gynghorau lleol trwy Catalunya a Valencià ac ers 2012 maent wedi sefyll ar gyfer etholiadau Senedd Catalunya gan ennill 3 sedd.
Mae CUP yn cynnwys amrywiaeth eang o syniadaeth o fewn yr Esquerra Independentista (Chwith dros Annibyniaeth) yn cynnwys rhwydwaith fawr o ganolfannau cymdeithasol yn bennaf ar gyfer bobl ifanc.[4]
Er i CUP fod yn feirniadol o brif bleidiau Catalanaidd, yn dilyn dadlau brwd ymhlith yr aelodaeth, penderfynwyd cyd-weithio gyda’r pleidiau eraill sydd yn gefnogol i annibyniaeth a phleidleisiodd seneddwyr CUP gyda’r glymblaid Junts pel Sí (Gyda’n gilydd dros Ie) i gynnal refferendwm ar ddyfodol Catalunya a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017.
Senedd Catalunya
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Pleidlisiau | % | Seddi | +/- |
---|---|---|---|---|
2012 | 126.219 | 3,48% (#7) | 3 | +3 |
2015 | 337.794 | 8,21% (#6) | 10 | +7 |
2017 | 192.795 | 4,45% (#6) | 4 | -6 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://cup.cat/que-es-la-cup
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-21. Cyrchwyd 2018-01-24.
- ↑ http://cup.cat/comptes-clars
- ↑ http://www.elperiodico.com/es/politica/20170902/quien-es-quien-esquerra-independentista-6244832