Bendigeidfran fab Llŷr
Enghraifft o'r canlynol | cawr |
---|
- Gweler hefyd Brân (gwahaniaethu).
Mae Bendigeidfran fab Llŷr (hefyd Brân Fendigaidd) yn gymeriad yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi.
Mae'r chwedl yn agor gyda Bendigeidfran, a ddisgrifir fel brenin Ynys Prydain, yn sefyll ar graig yn Harlech yn edrych tua'r môr. Gydag ef mae ei frawd Manawydan a dau hanner brawd, Nisien ac Efnysien, sy'n feibion i'w fam, Penarddun ferch Beli fab Mynogan, o briodas arall. Gwelir llongau yn dynesu, a gwelir mai Matholwch brenin Iwerddon, sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, Branwen, yn wraig iddo. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, Gwern, iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi drudwy ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, gan adael ei fab, Caradog fab Brân, i ofalu am ei deyrnas. Mae'r fyddin yn croesi mewn llongau ond rhaid i Bendigeidfran gerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario. Wedi cyrraedd Iwerddon maent yn dod at afon na ellir ei chroesi, ac mae Bendigeidfran yn gorwedd ar draws yr afon fel pont, a'r fyddin yn croesi drosto.
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr. Yn y diwedd mae holl wŷr Iwerddon wedi ei lladd, er gwaethaf y ffaith fod ganddynt y Pair Dadeni i adfywio'r meirw, a dorrir gan Efnysien, a dim ond saith o fyddin Bendigeidfran sy'n fyw i ddychwelyd i Brydain. Mae Bendigeidfran ei hun wedi ei glwyfo'n angheuol yn ei droed gan waywffon wenwynig. Cyn marw mae'n gorchymyn i'w wŷr dorri ei ben a mynd a'r pen yn ôl gyda hwy a'i osod ar y Gwynfryn yn Llundain.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)