Wicipedia:Angen ffynhonnell

Oddi ar Wicipedia
Mae'r nodyn {{angen ffynhonnell}} yn anelu at hybu sgwrs atebol.

I sicrhau bod holl gynnwys Wicipedia'n wiriadwy, gall unrhyw un herio datganiad na ddyfynnwyd gan osod tag {{Angen ffynhonnell}}, sy'n dilyn o fewn erthygl fel hyn: [angen ffynhonnell]

Gosodir y ddolen hon ar erthygl gan ei bod yn cynnwys datganiadau sydd ddim yn amlwg, yn gwbl bendifaddau gywir, ac o ganlyniad angen "cyfeiriadau" neu "ffynonellau" wedi'u dangos er mwyn profi cywirdeb y brawddegau hyn, megis,

Enghraifft: Mae'r mwyafrif o bobl yn credu mewn ysbrydion.[angen ffynhonnell]

Wrth weld y tag hwn, dylech:

  • Barhau â gofal - rydych yn dibynnu ar ddatganiadau na ddyfynnwyd.
  • Dynnu'r hyn a ddywedwyd yn gyfan gwbl os oes rheswm gennych i feddwl bod y datganiad yn anghywir. Ar y llall, dechreuwch drafodaeth am y ffaith ar dudalen sgwrs yr erthygl gan egluro'ch ymresymiad.
  • Fod yn feiddgar a disodli'r nodyn â <ref>rhyw droednodyn</ref>, gan ddisodli rhyw droednodyn â digon o wybodaeth er mwyn dod o hyd i'r ffynhonnell. Gadewch y copiolygu i rywun arall, neu ddysgu rhagor gyda Wicipedia:Dyfynnu ffynonellau.
  • Dynnu'n syth bywgraffiadau dadleuol a ddyfynnwyd yn wael o fewn bywgraffiadau o bobl sy'n byw heddiw.

Gweler hefyd[golygu cod]