Johnny Reb

Oddi ar Wicipedia
Johnny Reb

Yr enw poblogaidd ar lafar oedd Johnny Reb neu Johnny Rebel am unrhyw un o filwyr Taleithiau Cydffederal America yn y Rhyfel Cartref, neu'r Fyddin Gydffederal gyfan.[1].

Yn ogystal, mae'r term yn cael ei arfer weithiau fel personoliad cenedlaethol am Daleithiau Cydffederal America ei hun. Yr enw poblogaidd am ei wrthwynebydd ar ochr yr Unol Daleithiau oedd Billy Yank (o'r term "Yank/Yankee" am "Americanwr").

Yn fwy diweddar, mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau fel enw am unrhyw ymladdwr dros ryddid neu "rebel", e.e. mewn caneuon pop a ffilmiau.

Llysenwir y llong gludio awyrennau yr USS John C. Stennis yn "Johnny Reb". Ceir hefyd canwr cerddoriaeth cajun o'r enw Johnny Rebel. Yn 1959 cafodd y canwr Johnny Horton hit gyda'i gân "Johnny Reb".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]