Cors Erddreiniog

Oddi ar Wicipedia
Cors Erddreiniog

Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng nghanolbarth Ynys Môn yw Cors Erddreiniog. Fel y gweddill o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru, mae dan ofal Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Saif y gors fymryn i'r dwyrain o bentref Capel Coch. Mae'n un o gorsydd mwyaf Môn, gydag amrywiaeth o blanhigion dŵr. Ceir hefyd lyn bychan, Llyn yr Wyth Eidion. Ceir amrywiaeth o bryfed yma hefyd; mae'n un o'r ychydig leoedd yng ngogledd Cymru lle gellir gweld gloyn byw Britheg y gors. Defnyddir Cobiau Cymreig a Gwartheg Duon Cymreig i bori'r warchodfa.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato