Vayots Dzor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: cs:Vajoc Dzor |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: os:Вайоц Дзор |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[ne:वायोत्स द्ज़ोर प्रान्त]] |
[[ne:वायोत्स द्ज़ोर प्रान्त]] |
||
[[nl:Vayots Dzor]] |
[[nl:Vayots Dzor]] |
||
[[os:Вайоц Дзор]] |
|||
[[pl:Prowincja Wajoc Dzor]] |
[[pl:Prowincja Wajoc Dzor]] |
||
[[pt:Vayots Dzor]] |
[[pt:Vayots Dzor]] |
Fersiwn yn ôl 14:49, 31 Hydref 2010
Talaith (marz) yn Armenia yw Vayots Dzor (Armeneg: Վայոց Ձոր, hen enw: Daralagez neu Daralagyoz). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, gan ffinio ar Azerbaijan i'r dwyrain a'r gorllewin, rhwng talaith Syunik i'r de a thaleithiau Armavir ac Ararat i'r gogledd. Mae ganddi arwynebedd o 2,308 km². Gyda phoglobaeth o ddim ond 53,230 (2002), dyma'r dalaith leiaf o ran poblogaeth yn Armenia. Y brifddinas yw Yeghegnadzor.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd Vayots Dzor yn dywysogaeth o fewn Teyrnas Syunik. Ystyr lythrennol yr enw yw "Dyffryn Gwae" am i'r ardal ddioddef yn drwm gan ddaeargrynfeydd mawr sawl gwaith yn ei hanes. Mae'n gyfoethog ei safleoedd hanesyddol sydd o ddiddordeb am eu pensaernïaeth, fel mynachlog Noravank, caer Smbataberd, a mynachlog Tsakhats Kar. Lleolir Jermuk, un o atyniadau twristaidd mwyaf Armenia yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, yn y dalaith.
Oriel
-
Mynachlog Noravank
-
Mynyddoedd ger Noravank
-
Ceunant ger Noravank
-
Eglwysi'r Santes Astvatsatsin, St. Karapet a St. Gregori, Noravank
-
Noravank
-
Khachkars yn Noravank
-
Eglwys St. Karapet, Noravank
-
Eglwys y Santes Astvatsatsin ac Eglwys St. Karapet
Taleithiau Armenia | |
---|---|
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan |