Oesoffagws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: az:Qida borusu (insan) |
B robot yn newid: fa:مری |
||
Llinell 52: | Llinell 52: | ||
[[et:Söögitoru]] |
[[et:Söögitoru]] |
||
[[eu:Hestegorri]] |
[[eu:Hestegorri]] |
||
[[fa: |
[[fa:مری]] |
||
[[fi:Ruokatorvi]] |
[[fi:Ruokatorvi]] |
||
[[fr:Œsophage]] |
[[fr:Œsophage]] |
Fersiwn yn ôl 14:59, 7 Mehefin 2010
Peipen allan o gyhyr a geir mewn rhai anifeiliaid ydyw'r esophagus (America) neu oesophagus (Lloegr) neu ar lafar: y llwnc. Mae bwyd yn cael ei basio drwyddo ar ei daith o'r ceg i'r stumog. O'r Lladin y daw'r gair a hwnnw yn ei dro'n fenthyciad o'r Groeg oisophagos (οισοφάγος), sef "mynediad y bwyd". Mewn bodau dynol caiff ei leoli yr un lefel â fertibra C6 ac mae'n 25-30 cm o hyd, gan ddiweddu yng ngheg y stumog.
Mae iddo dair rhan: y rhan yddfol, thoracsig ac abdominal.
Ei waith
Drwy'r broses o wringhelliad (neu beristalisis), mae bwyd yn teithio drwyddo i'r stumog. Gwringhelliad ydy'r broses o gyhyrau'n cyfangu gan leihau a gwthio'r bwyd ar ei daith. Gan nad oes ganddo leining miwcws (yn wahanol i'r stumog) gall asid y stumog gnoi i fewn iddo gan ei greithio. I fod yn fanwl gywir, mae'n cysylltu'r argeg (ffaryncs) sef y lle gwag hwnnw a ddefnyddir hefyd gan y system respiradu a'r stumog ble mae'r ail ran o'r broses dreulio yn digwydd.