T. F. O'Rahilly: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cat |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: en:T. F. O'Rahilly |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Ysgolheigion Gwyddelig]] |
[[Categori:Ysgolheigion Gwyddelig]] |
||
[[en:T.F. O'Rahilly]] |
[[en:T. F. O'Rahilly]] |
||
[[nl:Thomas Francis O'Rahilly]] |
[[nl:Thomas Francis O'Rahilly]] |
||
[[no:Thomas Francis O'Rahilly]] |
[[no:Thomas Francis O'Rahilly]] |
Fersiwn yn ôl 00:47, 14 Mai 2010
Ysgolhaig Celtaidd o Iwerddon oedd Thomas Francis O'Rahilly neu Tomás Proinsias Ó Rathaile (1883 – 1953), yn ysgrifennu fel T. F. O'Rahilly.
Ganed ef yn Listowel, Swydd Kerry. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Frenhinol Iwerddon, a bu'n Athro Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1919 hyd 1929, yna'n Athro Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Corc o 1929 hyd 1935 a Choleg Prifysgol Dulyn o 1935 hyd 1941, cyn dod yn gyfarwyddwr Ysgol Astudiaethau Celtaidd y Dublin Institute for Advanced Studies o 1942 hyd 1947.
Mae O'Rahilly yn fwyaf adnabyddus am ei syniadau ynghylch hen hanes Iwerddon. Cyhoeddodd Early Irish history and mythology yn 1946, gan gynnig y syniad o bedair symudiad o fewnfudwyr Celtaidd i Iwerddon. Y cyntaf o'r rhain oedd y Cruithne neu Priteni (c. 700 – 500 CC), oedd yn siarad iaith Frythonig.
Roedd ei chwaer, Cecile O'Rahilly, hefyd yn ysgolhaig Celtaidd.