Meryl Streep: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lt:Meryl Streep |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: zh-min-nan:Meryl Streep |
||
Llinell 57: | Llinell 57: | ||
[[vi:Meryl Streep]] |
[[vi:Meryl Streep]] |
||
[[zh:梅麗·史翠普]] |
[[zh:梅麗·史翠普]] |
||
[[zh-min-nan:Meryl Streep]] |
Fersiwn yn ôl 18:40, 30 Ebrill 2009
Mae Mary Louise "Meryl" Streep (ganed 22ain o Fehefin, 1949) yn actores Americanaidd sydd wedi gweithio ym myd y theatr, teledu a ffilm. Caiff ei hystyried gan nifer o bobl fel un o'r actorion ffilm mwyaf talentog ac uchel ei pharch ei hoes. Perfformiodd am y tro cyntaf ar lwyfan ym 1971 yn y ddrama The Playboy of Seville ac ymddangosodd ar y sgrîn fach yn y ffilm a wnaed ar gyfer y teledu The Deadliest Season ym 1977. Ffilm gyntaf Streep oedd Julia a gynhyrchwyd ym 1977, lle actiodd gyferbyn â Jane Fonda a Vanessa Redgrave.