Gwobr Grammy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: lv:Grammy balva |
B robot yn ychwanegu: hi:ग्रैमी पुरस्कार |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[gl:Premios Grammy]] |
[[gl:Premios Grammy]] |
||
[[he:פרס גראמי]] |
[[he:פרס גראמי]] |
||
[[hi:ग्रैमी पुरस्कार]] |
|||
[[hu:Grammy-díj]] |
[[hu:Grammy-díj]] |
||
[[id:Penghargaan Grammy]] |
[[id:Penghargaan Grammy]] |
Fersiwn yn ôl 14:25, 13 Chwefror 2009
Mae Gwobrau'r Grammy (a alwyd yn Wobrau'r Gramaffôn yn wreiddiol)–neu'r Grammys–yn cael eu cyflwyno'n flynyddol yn yr Unol Daleithiau gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer y Celfyddydau a'r Gwyddorau Recordio am lwyddiannau ysgubol yn y diwydiant recordio. Yn y seremoni gwobrwyo ceir perfformiadau gan artistiaid blaenllaw a darlledir rhai o'r Gwobrau Grammy mwyaf poblogaidd ar y teledu. Ar hyn o bryd, Llywydd yr Academi yw Neil Portnow. Ystyrir derbyn Grammy fel yr anrhydedd uchaf yn y byd cerddorol, a dyma fersiwn cyfatebol y diwydiant i Wobrau'r Academi (yr Oscars) ar gyfer ffilmiau.
Sefydlwyd y gwobrau ym 1958. Yn ystod y 1960au, cyn i'r Grammys gael eu darlledu am y tro cyntaf ar ABC ym 1971, darlledwyd cyfres o raglenni arbennig wedi eu rhag-recordio ar NBC o'r enw The Best on Record.