Dyn Marlboro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
categoriau |
Marnanel (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
[[Categori:Hysbysebu]] |
[[Categori:Hysbysebu]] |
||
[[Categori:Ysmygu]] |
[[Categori:Ysmygu]] |
||
[[de:Marlboro Man]] |
|||
[[en:Marlboro Man]] |
|||
[[es:Marlboro Man]] |
|||
[[pt:Marlboro Man]] |
|||
[[fi:Marlboro-mies]] |
|||
[[sv:Marlboro Man]] |
Fersiwn yn ôl 20:25, 13 Ionawr 2009
Mae'r Dyn Marlboro yn rhan o ymgyrch hysbysebu sigarennau Marlboro. Dechreuodd yr ymgyrch yn yr UDA a defnyddiwyd symbol y "Dyn Marlboro" o 1954 tan 1999. Leo Burnett gafodd y syniad am y dyn Marlboro ym 1954. Mae'r ddelwedd yn cysylltu cowboi neu gowbois garw yr olwg gydag un sigaret yn unig. Yn wreiddiol, cyflwynwyd y ddelwedd er mwyn poblogeiddio sigarennau gyda ffilteri, a oedd yn cael eu cysylltu ar y pryd gyda menywod.
Dywedir fod yr ymgyrch hysbysebu gan Marlboro yn un o'r ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf llwyddiannus erioed. Trawsnewidiwyd agweddau pobl tuag at sigarennau gyda'r slogan 'Mild as May', a gwelwyd cynnydd yn y nifer o ddynion a ysmygai sigarennau gyda ffilteri mewn mater o fisoedd yn unig. Er y bu nifer o Ddynion Marloboro, y cowbois oedd fwyaf poblogaidd. Arweiniodd hyn at yr ymgyrchoedd 'Cowboi Marlboro' a'r 'Gwlad Marlboro'.
Yr actor George Lazenby oedd y Dyn Marlboro yn Ewrop.[1]