Epig Gilgamesh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Barddoniaeth]] |
[[Categori:Barddoniaeth]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Llên Irac]] |
||
[[Categori:Mesopotamia]] |
[[Categori:Mesopotamia]] |
Fersiwn yn ôl 17:55, 27 Awst 2017
Cerdd epig o Mesopotamia yw Epig Gilgamesh, sy'n un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi. Cred ysgolheigion fod cyfres o chwedlau a cherddi Sumeraidd am y brenin mytholegol Gilgamesh, oedd efallai yn deyrn gwirioneddol rywbryd tua'r 27ain ganrif CC., wedi ei casglu i ffurfio cerdd hirach mewn Akkadeg yn llawer diweddarach. Ceir y fersiwn lawnaf ar ddeuddeg tabled glai o lyfrgell Ashurbanipal, brenin Assyria yn y 7fed ganrif CC..
Prif bwnc y stori yw'r berthynas rhwng Gilgamesh, brenin Uruk, sydd wedi digalonni a blino ar deyrnasu, a'i gyfaill hanner-gwyllt Enkidu, a galar Gilgamesh wedi marwolaeth Enkidu. Wedi marwolaeth ei gyfaill, mae Gilgamesh yn chwilio am anfarwoldeb. Ceir cyfeiriad at Ddilyw oedd wedi boddi pawb heblaw Utnapishtim a'i wraig.