Prydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Bardd wedi ei hyfforddi yn drwyadl yng nghelfyddyd cerdd dant yw '''prydydd''' (benywaidd : '''prydyddes'''). Yn yr Oesoedd Canol dim ond y beirdd gorau oedd â'r hawl i'r te... |
+ |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae [[Gramadegau'r Penceirddiaid]] yn pwysleisio goruchafiaeth a statws arbennig y prydydd ac yn amlygu nodweddion ei grefft : |
Mae [[Gramadegau'r Penceirddiaid]] yn pwysleisio goruchafiaeth a statws arbennig y prydydd ac yn amlygu nodweddion ei grefft : |
||
:Ni pherthyn ar '''brydydd''' ymyrru ar glerwriaeth... canys gwrthwyneb yw ei grefft ef. Canys crefft prydydd yw [[canu mawl|canmawl]] a chlodfori, a digrifháu, a gwneuthur moliant a gogoniant a diddanwch. |

:''Gramadegau'r Penceirddiad''<ref>G. J. Williams ac E. J. Jones (gol.), ''Gramadegau'r Penceirddiaid'' (Caerdydd, 1934), t. 56.</ref> |
:''Gramadegau'r Penceirddiad'' (mewn orgraff ddiweddar)<ref>G. J. Williams ac E. J. Jones (gol.), ''Gramadegau'r Penceirddiaid'' (Caerdydd, 1934), t. 56.</ref> |
||
Ychwanegir fod gan y prydydd ei ddisgyblion, a'i fod yn [[athro barddol]]. |
Ychwanegir fod gan y prydydd ei ddisgyblion, a'i fod yn [[athro barddol]]. |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Mae'r beirdd canoloesol a arddelai'r gair 'prydydd' yn ei henwau yn cynnwys, |
Mae'r beirdd canoloesol a arddelai'r gair 'prydydd' yn ei henwau yn cynnwys, |
||
*[[Meilyr Brydydd]] |
*[[Meilyr Brydydd]] |
||
*[[Cynddelw Brydydd Mawr]] |
|||
*[[Prydydd y Moch]] |
*[[Prydydd y Moch]] |
||
*[[Y Prydydd Bychan]] |
*[[Y Prydydd Bychan]] |
||
*[[Gwgon Brydydd]] |
|||
*[[Ieuan Brydydd Hir]] |
*[[Ieuan Brydydd Hir]] |
||
Fersiwn yn ôl 21:09, 28 Medi 2007
Bardd wedi ei hyfforddi yn drwyadl yng nghelfyddyd cerdd dant yw prydydd (benywaidd : prydyddes). Yn yr Oesoedd Canol dim ond y beirdd gorau oedd â'r hawl i'r teitl, ond yn y cyfnod modern daeth yn air mwy cyffredinol yn golygu 'bardd' neu unrhyw un sy'n mydryddu.
Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin. Yno gwahanieithir yn amlwg rhwng prydyddion a beirdd cyffredin (fel y Glêr yn ddiweddarach). Yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion roedd y prydydd yn fardd llys breintiedig gyda statws tebyg i'r pencerdd.
Mae Gramadegau'r Penceirddiaid yn pwysleisio goruchafiaeth a statws arbennig y prydydd ac yn amlygu nodweddion ei grefft :
- Ni pherthyn ar brydydd ymyrru ar glerwriaeth... canys gwrthwyneb yw ei grefft ef. Canys crefft prydydd yw canmawl a chlodfori, a digrifháu, a gwneuthur moliant a gogoniant a diddanwch.
- Gramadegau'r Penceirddiad (mewn orgraff ddiweddar)[1]
Ychwanegir fod gan y prydydd ei ddisgyblion, a'i fod yn athro barddol.
Mae'r beirdd canoloesol a arddelai'r gair 'prydydd' yn ei henwau yn cynnwys,
- Meilyr Brydydd
- Cynddelw Brydydd Mawr
- Prydydd y Moch
- Y Prydydd Bychan
- Gwgon Brydydd
- Ieuan Brydydd Hir
Cyfeiriadau
- ↑ G. J. Williams ac E. J. Jones (gol.), Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), t. 56.