William Chambers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn creu tudaeln William Chambers
 
B manion
Llinell 1: Llinell 1:
Diwydiannwr a gwr cyhoeddus oedd '''William Chambers''', 1774-1855. Ganwyd ef yn Llundain, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt o 1792 lle cafodd radd B.A. yn 1795, ac M.A. yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystad Syr John Stepney, un o drigolion De Cymru, ar 18 Rhag. 1824, a daeth i fyw i Llanelly House, yn agos i eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel siryf sir Gaerfyrddin, a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers, yr ieuaf (1809-1882), profodd lwyddiant sylweddol yn y maes diwydiannol trwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000.
Diwydiannwr a gwr cyhoeddus oedd '''[http://yba.llgc.org.uk/cy/c3-CHAM-WIL-1774.html William Chambers]''', 1774-1855. Ganwyd ef yn [[Llundain]], a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, [[Caergrawnt]] o 1792 lle cafodd radd B.A. yn 1795, ac M.A. yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystad Syr John Stepney, un o drigolion De Cymru, ar 18 Rhag. 1824, a daeth i fyw i Llanelly House, yn agos i eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel siryf sir [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]], a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers, yr ieuaf (1809-1882), profodd lwyddiant sylweddol yn y maes diwydiannol trwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000.


Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, Ffrainc, a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'r mab yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad, bu'n arweinydd yng ngyfarfod protest 'Merched Becca' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843.
Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, [[Ffrainc]], a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'r mab yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod '[[Helyntion Beca|Merched Becca]]' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, ac hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar Dollborth a chlwydi ardal [[Pontarddulais]] ar 6 Medi 1843. Dioddefodd ddial y terfysgwyr yr adeg hynny. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw Hafod yn 1853, a'i werthu hefyd cyn ei farw.


Bu farw William Chambers, yr hynaf, ar 9 Chwef. 1855 yn [[Llanelli]].


CHAMBERS , WILLIAM ( 1774 - 1855 ; diwydiannwr a gŵr cyhoeddus .
Yn ei ewyllys, dyddiedig 9 Awst 1802 , (dyfynnir hi yn ‘ An Act to enable William Chambers … to grant leases of certain estates ’, 1840 — copi yn Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd ), trefnodd Syr John Stepney (gw. teulu STEPNEY , i'w eiddo, mewn pedwar plwyf ar hugain, fyned, nid i'w frawd Thomas (a ddilynodd Syr John fel barwnig ar ei farwolaeth, 3 Hydref 1811 ), nac i etifeddion ei ddwy chwaer, ond i chwe pherson na perthynent i'r teulu, a'u hetifeddion gwryw hwythau. Yr oedd William Chambers o Bicknor , swydd Caint , yn un o'r rhain. Ar ôl dydd Chambers , oni fyddai etifeddion gwryw, yr oedd y stâd i fyned yn ôl i Syr Thomas Stepney , ac yna i etifeddion dwy chwaer Syr Thomas . Yn hynod iawn, bu'r personau a enwid yn yr ewyllys farw, y naill ar ôl y llall, yn gyflym iawn, heb etifeddion, ac fel canlyniad daeth y stad i feddiant William Chambers, 18 Rhag. 1824 . Bu Syr Thomas Stepney f. yn ddietifedd, 19 Medi 1825 . Ni cheir unrhyw esboniad ar yr ewyllys hon, arwahan i'r traddodiad teuluol fod Syr John Stepney wedi cweryla â'i frawd ac â'i chwiorydd.

G. William Chambers yn Llundain , ac addysgwyd ef yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (cofrestrwyd ef 1792 ; B.A. , 1795 ; M.A. , 1800 ). Pan ddaeth stadau Stepney i'w feddiant, daeth i fyw yn Llanelly House (ger eglwys y plwyf), ty na fuasai teulu Stepney yn byw ynddo ers 60 mlynedd. Yn 1828 yr oedd yn uchel siryf sir Gaerfyrddin . Bu ef a'i fab yn amlwg iawn yn natblygiad diwydiannol Llanelli, yn neillduol drwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840, gangwario £10,000 ar wneud hynny. Bu f. yn Llanelli , 9 Chwef. 1855 , yn 81 oed.


Gan fod y ddeddf a nodir uchod yn dweud nad oedd ganddo etifedd, rhaid tybio tybio mai mab anghyfreithlon oedd WILLIAM CHAMBERS , yr ieuaf ( 1809 - 1882 ). G. ef yn Valenciennes , Ffrainc , 24 Mai 1809 , a chafodd ei addysg yn Eton a Choleg S. Ioan , Caergrawnt (derbyniwyd ef 1826 , a chofrestrwyd ef Pasg 1828 . Nid oes tystiolaeth iddo raddio). Priododd Joanna Trant , merch Capten Payne , R.N. , 20 Gorff. 1835 , a bu iddynt 5 o blant. Bu f. 21 Mawrth 1882 yn 72 oed. Yr oedd William Chambers , yr ieuaf , yn wr a chanddo syniadau rhyddfrydol iawn. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839 . Er ei fod yn ynad , ef oedd yn y gadair yng nghyfarfod protest ‘Beca' ar Fynydd Sylen , 25 Awst 1843 . Er hynny, bu iddo ran yng nghipio arweinwyr ‘Beca' pan ymosodwyd ar glwydi ym Mhontarddulais , 6 Medi 1843 , a dioddefodd ddial y terfysgwyr (gw. John Jones . Rhoes dystiolaeth bwysig o flaen y comisiynwyr addysg yn 1849 , ac yn 1850 penodwyd ef yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli , a gymerth le'r bwrdeiswyr llygredig a fuasai'n gyfrifol am weinyddu stadau'r dre. Ar farwolaeth ei dad aeth stadau Stepney yn ôl i feddiant etifeddion chwiorydd Syr John Stepney , ond, yn unig, ar ôl achos cyfreithiol hir ( Llys y Siawnsri , 1865 ). Yn 1853 prynodd William Chambers , yr ieuaf , Hafod (a newidiasai berchenogion ddwywaith er pan fu f. Thomas Johnes . Gwerthodd yntau'r lle cyn ei farw.

Fersiwn yn ôl 10:17, 8 Medi 2016

Diwydiannwr a gwr cyhoeddus oedd William Chambers, 1774-1855. Ganwyd ef yn Llundain, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt o 1792 lle cafodd radd B.A. yn 1795, ac M.A. yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystad Syr John Stepney, un o drigolion De Cymru, ar 18 Rhag. 1824, a daeth i fyw i Llanelly House, yn agos i eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel siryf sir Gaerfyrddin, a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers, yr ieuaf (1809-1882), profodd lwyddiant sylweddol yn y maes diwydiannol trwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000.

Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, Ffrainc, a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'r mab yn un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod 'Merched Becca' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, ac hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar Dollborth a chlwydi ardal Pontarddulais ar 6 Medi 1843. Dioddefodd ddial y terfysgwyr yr adeg hynny. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw Hafod yn 1853, a'i werthu hefyd cyn ei farw.

Bu farw William Chambers, yr hynaf, ar 9 Chwef. 1855 yn Llanelli.