Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Ifor Rees == Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. Ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym...' |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
== |
== Bywyd a gyrfa == |
||
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. |
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Efe oedd cyfansoddwr ac awdur y gân enwog ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’. |
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Efe oedd cyfansoddwr ac awdur y gân enwog ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’. |
||
Bu farw yn 2004 yn 82 oed. |
Bu farw yn 2004 yn 82 oed. |
||
== Llyfryddiaeth == |
== Llyfryddiaeth == |
Fersiwn yn ôl 18:53, 6 Mawrth 2014
Bywyd a gyrfa
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. Ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdau’r ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd Bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, daeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill a bu’n arloeswr yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen.
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Efe oedd cyfansoddwr ac awdur y gân enwog ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.
Bu farw yn 2004 yn 82 oed.
Llyfryddiaeth
Peidiwch â Sôn (1973)
Dilyn Afon (1977)
Crwydro Clawdd Offa (1979)
Bro a Bywyd T.H. Parry Williams (1981)
Bro a Bywyd Cynan (1982)
Gwgwrus (1983)
Ar Glawr (1983)
Siwrneio (1990)
Dŵr o Ffynnon Felin Bach (1995)
Gwŷr Llên Cwm Tawe (1995)