Niki Lauda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ms:Niki Lauda |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: zh:尼基·劳达 |
||
Llinell 59: | Llinell 59: | ||
[[uk:Нікі Лауда]] |
[[uk:Нікі Лауда]] |
||
[[ur:نکی لوڈہ]] |
[[ur:نکی لوڈہ]] |
||
[[zh:尼基·劳达]] |
Fersiwn yn ôl 18:02, 6 Mawrth 2013
Gŵr busnes a chyn-yrrwr rasio Fformiwla Un o Awstria yw Andreas Nikolaus "Niki" Lauda (ganed 22 Chwefror, 1949). Enillodd bencampwriaeth y byd dair gwaith, yn 1975, 1977 a 1984.
Ganed ef yn Fienna i deulu cefnog oedd yn hanu o Galicia. Daeth yn yrrwr Fformiwla 2 i dîm March yn 1971, ac yn yrrwr Fformiwla Un yn fuan wedyn. Ymunodd â thîm Ferrari yn 1974; enillodd ei ras Fformiwla Un gyntaf, Grand Prix Sbaen, yr un flwyddyn.
Yn ystod Grand Prix yr Almaen, 1976, cafodd ddamwain ddifrifol iawn. Aeth ei gar ar dân, a methodd Lauda ddod allan ohono. Llosgwyd ef mor ddifrifol nes i offeiriad roi'r sacrament olaf iddo, ond roedd yn rasio eto ymhen chwech wythnos. Enillodd ei fuddugoliaeth gyntaf ar ôl dychwelyd yn Grand Prix De Affrica 1977, y ras lle lladdwyd y Cymro Tom Pryce.
Wedi ymddeol fel gyrrwr, dechreuodd gwmni awyrennau Lauda Air.