Take That: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: ga:Take That
B r2.7.3) (robot yn newid: bg:Take That
Llinell 15: Llinell 15:
[[arz:تيك ذات]]
[[arz:تيك ذات]]
[[ast:Take That]]
[[ast:Take That]]
[[bg:Тейк Дат]]
[[bg:Take That]]
[[ca:Take That]]
[[ca:Take That]]
[[cs:Take That]]
[[cs:Take That]]

Fersiwn yn ôl 15:49, 6 Ionawr 2013

Take That yn y dyddiau cynnar

Grŵp pop Seisnig ydy Take That. Aelodau'r grŵp yw Gary Barlow, Howard Donald, Jason Orange, Mark Owen, ac roedd Robbie Williams yn aelod gynt hefyd. Ar ôl llwyddiant ysgubol ar ddechrau tan ganol y 1990au fel grŵp pum aelod, ail-ffurfiwyd y band fel grŵp pedwar aelod yng nghanol y 2000au heb Williams.

Ffurfiwyd y band gan Nigel Martin Smith ym Manceinion ym 1990 a gwerthodd y band dros 30 miliwn o recordiau rhwng 1991–1996. Ers rhyddhau eu sengl cyntaf ym 1991 i'r cyfnod pan wahanodd y band ym 1996, disgrifiodd y BBC y grŵp fel "y band Prydeinig mwyaf llwyddianus yn y Deyrnas Unedig ers The Beatles, sy'n apelio i'r hen a'r ifanc ar yr un pryd". Domineiddodd caneuon pop a chaneuon serch Take That y siartiau Prydeinig yn hanner cyntaf y 1990au, gan greu dwy o'r albymau a werthodd orau y degawd honno sef Everything Changes (a enwebwyd am Wobr Mercury ym 1994)[1] a Greatest Hits yn 1996. Yn ôl Allmusic "roeddent yn serennau awr yn Ewrop ar y pryd, a'r unig gwestiwn oedd, nid a allent gael sengl llwyddiannus, ond faint ohonnynt fuasai'n cyrraedd rhif un ar y siartiau."

Gwahanodd y band ym 1996, ond ar ôl rhaglen ddogfen ym 2005 a rhyddhau albwm o'u caneuon gorau, cyhoeddwyd yn swyddogol y byddent yn ail-ffurfio fel grŵp i wneud taith o amgylch y Deyrnas Unedig. Galwyd y daith yn The Ultimate Tour. Ar 9 Mai cyhoeddwyd bod Take That yn bwriadu recordio eu halbwm stiwdio cyntaf mewn dros deng mlynedd o'r enw Beautiful World. Aeth y band ymlaen i gynhyrchu taith arall yn 2007 sef The Beautiful World Tour, cyfres o gyngherddau a werthodd allan yn llwyr. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn wrth y beirniaid a dyma yw eu taith sydd wedi gwerthu orau hyd yn hyn.

Cyfeiriadau