Sant Piran: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
→Cyfeiriadau: rhyngwici |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[Categori:Seintiau]] |
[[Categori:Seintiau]] |
||
[[en:Saint Piran]] |
Fersiwn yn ôl 19:39, 7 Mawrth 2007
Nawddsant Cernyw (Kernow) ar y cyd â Petroc yw Sant Piran. Mae'n nawddsant y mwyngoddwyr alcam. Dethlir ei ŵyl ar 5 Mawrth.
Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du. Y wen yn cynrychioli'r alcam/tun.
Abad o'r chweched ganrif o dras Gwyddeleg (fel Ciarán - y P Cymraeg yn troi yn C Gaeleg).
Mae llawysgrif o'r trydedd ganrif ar ddeg yn rhoi i ni 'bywyd Piran' a ysgrifenwyd yng ngadeirlan Caerwysg. Ond mae hanes am ei fedd yn Saighir (Sir Offally, Iwerddon)
Mae G. H. Doble yn credu ei fod e'n Gymro oherwydd y capel (ar goll) iddo yng Nghaerdydd.
Yn ol yr hanes mae e wedi cael ei daflu i'r mor gan paganiaid yn Iwerddon ond daeth i'r lan ym Mh/Perranzabuloe, Cernyw. A hyn er gwaethaf y maen felin o gympas ei wddf!
Y fo sy'n gyfrifol am adfer y sgil o smeltio tun yng Nghernyw am fod cerrig du ar ei aelwyd wedi ymboethi cymaint i ryddhau'r tun gwyn - fel yn ei faner.
Dosbarthwyd ei olion rhwng Caerwysg a Pherranzabuloe ond dim ond y blwch creiriau sy wedi oroesi ffyrnigrwydd y protenstanwyr.
Dethlir Gwyl Piran drwy Cernyw a'r diaspora Cernywiadd. Mae miloedd yn tyrio at groes Piran ymhysg y tywynni ac adferwyd y perfformaid o'i ddrama miragl yn ddiweddar (yn y Gernyweg). Benthycwyd y cennin Pedr fel arwydd yn ddiwedar hefyd.
Cyfeiriadau
- Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran
- Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
- Ford, David Nash. (2001). Early British Kingoms: St. Piran, Abbot of Lanpiran. Nash Ford Publishing.
- Loth, J. (1930). 'Quelques victimes de l'hagio-onomastique en Cornwal: saint Peran, saint Keverne, saint Achebran' in Memoires de la Societe d'Histoire et d'Archaeologie de Bretegne.
- Plummer, Charles. (1922). Betha Naem nErenn
- Tomlin, E.W.F. (1982). In Search of St Piran