Sgandal Watergate: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Уотэргейцкі скандал |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ia:Watergate |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
[[hr:Watergate]] |
[[hr:Watergate]] |
||
[[hu:Watergate-botrány]] |
[[hu:Watergate-botrány]] |
||
[[ia:Watergate]] |
|||
[[id:Skandal Watergate]] |
[[id:Skandal Watergate]] |
||
[[is:Watergate-hneykslið]] |
[[is:Watergate-hneykslið]] |
Fersiwn yn ôl 19:52, 6 Chwefror 2012
Sgandal gwleidyddol yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1970au oedd sgandal Watergate oedd yn ymwneud â byrgleriaeth ym mhencadlys Pwyllgor Cenedlaethol y Blaid Ddemocrataidd yng nghyfadeilad Watergate yn Washington, D.C., ac ymdrechion gweinyddiaeth yr Arlywydd Richard Nixon i gelu ei chyfrifoldeb yn y drosedd. Arweiniodd y sgandal at ymddiswyddiad Nixon, yr unig dro i arlywydd ymddiswyddo yn hanes yr Unol Daleithiau. Cafodd nifer o swyddogion yng ngweinyddiaeth Nixon eu ditio, eu rhoi ar achos, eu cael yn euog, a'u carcharu.
Cychwynnodd y sgandal pan arestiwyd pum dyn am dorri i mewn i bencadlys y Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd (DNC) yn Adeilad Gwesty a Swyddfa Watergate ar 17 Mehefin 1972. Cafodd taliadau i'r byrgleriaid eu cysylltu gan yr FBI i "gronfa slwtsh" a ddefnyddiwyd gan y Pwyllgor i Ail-Ethol yr Arlywydd, grŵp oedd yn codi arian am ymgyrch arlywyddol Nixon. Wrth i'r dystiolaeth yn erbyn staff Nixon dyfu, gan gynnwys tystiolaeth mewn pwyllgor seneddol gan gyn-aelodau'r staff arlywyddol, daeth i'r amlwg bod nifer o sgyrsiau mewn swyddfeydd yr arlywydd wedi eu recordio ar dâp. Ymhlygwyd yr arlywydd gan recordiadau'r tapiau, oedd yn dangos y wnaeth geisio cuddio'r fyrgleriaeth: ar 23 Mehefin 1972 cyfarwyddodd Nixon i'r CIA i atal ymchwiliad gan yr FBI bydd yn peri embaras i'w ymgyrch ail-ethol. Roedd y cyfarwyddyd hwn yn rhwystro cyfiawnder. Yn dilyn cyfres o achosion llys, dyfarnodd y Goruchaf Lys yr oedd rhaid i'r arlywydd rhoi'r tapiau i ymchwilwyr llywodraethol; cydymffurfiodd Nixon yn y bôn.
Gan wynebu uchelgyhuddiad yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr a siawns uchel o'i gael yn euog gan y Senedd, ymddiswyddodd Nixon ar 9 Awst 1974. Derbynodd pardwn gan Gerald Ford, ei olynydd i'r arlywyddiaeth, mis yn hwyrach.