Dyneiddiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn newid: eu:Humanismo, nl:Humanisme, th:มนุษยนิยม |
Garik (sgwrs | cyfraniadau) Dwi'n meddwl bod hyn yn disgrifio |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Dyneiddiaeth''' neu '''Hiwmaniaeth''' yw’r gred bod dyn yn medru gwella ei hunan heb gymorth oruwchnaturiol a bod ganddo ddyletswydd i wneud hynny. |
'''Dyneiddiaeth''' neu '''Hiwmaniaeth''' yw’r gred bod dyn yn medru gwella ei hunan heb gymorth oruwchnaturiol a bod ganddo ddyletswydd i wneud hynny. |
||
Honnir gan ddyneiddwyr mai mewn adnoddau meddyliol dyn y ddylir rhoi ein ffydd i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn—er nad ydy'r adnoddau hyn yn berffaith, neu yn sicr o lwyddo ym mhob achos (honnir nad oes adnoddau gwell ar gael). Ymagweddiad dyneiddiwr yw: "Dylai dyn fod yn barchus i gyd-ddyn heb gyfrif dosbarth, hil na chrediniaeth."<br/> Mae moesau sylfaenol dyneiddiwr yn cynnwys rhyddid, cyflawnder a goddefgarwch. |
|||
Fersiwn yn ôl 23:40, 26 Awst 2011
Dyneiddiaeth neu Hiwmaniaeth yw’r gred bod dyn yn medru gwella ei hunan heb gymorth oruwchnaturiol a bod ganddo ddyletswydd i wneud hynny.
Honnir gan ddyneiddwyr mai mewn adnoddau meddyliol dyn y ddylir rhoi ein ffydd i ddod a gwybodaeth a dealltwriaeth i’r byd, ac i ddatrys y broblemau moesol ynghlyn a defnyddio’r gwybodaeth hwn—er nad ydy'r adnoddau hyn yn berffaith, neu yn sicr o lwyddo ym mhob achos (honnir nad oes adnoddau gwell ar gael). Ymagweddiad dyneiddiwr yw: "Dylai dyn fod yn barchus i gyd-ddyn heb gyfrif dosbarth, hil na chrediniaeth."
Mae moesau sylfaenol dyneiddiwr yn cynnwys rhyddid, cyflawnder a goddefgarwch.
Dyneiddiaeth yn y gorffennol
Roedd 'dyneiddiaeth' neu 'hiwmaniaeth' yn cyfeirio yn y fan gyntaf, at system o addysg wedi sylfaeni ar ddiwylliant clasurol Groeg a Lladin, ac yn yr ail fan, at yr ymddygiadau rymus a oedd yn mynd gyda diwedd y canol oesoedd, ac wedi eu cynrychioli hefyd mewn gwahanol gyfnodau gyda’r Dadeni, y Diwygiad, y Gwrthdro Diwydiannol a’r brwydr am weriniaeth. Roedd rhain yn cynnwys rhyddhad o awdurdod eglwysig a rhyddhad meddyliol.
Dyneiddiaeth yn y presennol
Heddiw mae’r gair 'dyneiddiaeth' neu 'hiwmaniaeth' yn cyfeirio at y syniad bod dyn yn medru buw bywyd gonest ac ystyriol heb ddilyn unrhyw grefydd ffurfiol.
Dyneiddiaeth grefyddol
Fe fydd y syniad bod dyn yn medru buw bywyd moesol heb fod yn grefyddol ddim yn golygu bod dyneiddiwr heb grefydd o angenrheidrwydd. Mae dyneiddwyr grefyddol yn sylweddoli bod rhywun yn foesol gan fod moesoldeb yn ei natur, a nid gan ei fod yn ofni’r canlyniadau, e.e. digofiant Duw.
Dyneiddiaeth anghrefyddol
neu dyneiddiaeth secwlar
Dydy dyneiddwyr ahghrefyddol ddim yn credu mewn bodolaeth Duw na duwiau nag unrhyw bethau ysbrydol, oruwchnaturiol neu ofergoelus. Mae'r rhan fwyaf o ddyneiddwyr anghrefyddol yn anffyddwyr ac mae rhai yn agnostig. Er mwyn gwneud penderfyniadau moesol fe fydd y dyneiddiwr yn defnyddio deall beirniadol yn hytrach na dilyn pendantrwydd awdurdodol grefyddol.