GIF

Oddi ar Wicipedia
GIF
Delwedd:Rotating earth (large).gif, Uncompressed gif file.PNG
Enghraifft o'r canlynolCywsagu video a lluniau
Mathfformat Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFformat cyfnewidfa graffig 87a a 89a
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fformat ffeil bitmap yw GIF (/dʒɪf/ JIF neu /ɡɪf/ GHIF), sy'n llythrenw o'r Saesneg 'Graphics Interchange Format'.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd y fformat ei ddatblygu gan dim dan arweiniad y gwyddonydd cyfrifiadurol Steve Wilhite yn Compuserve ar 15 Mehefin, 1987. Mae wedi dod i gael ei ddefnyddio'n helaeth ar y We fyd-eang oherwydd y gefnogaeth eang iddo a'i hygludedd.

Fformat[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio GIF i ddangos animeiddiad, fel yn yr enghraifft hon o Grud Newton.

Mae'r fformat yn gallu cynnal hyd at 8 bit y picsel, gan ganiatau 256 o wahanol liwiau o'r palet gofod lliw RGB 24-bit. Mae hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer animeiddiadau ac yn caniatau palet  hyd at 256 o liwiau i bob ffrâm. Mae'r cyfyngiadau hyn yn gwneud GIF yn llai addas ar gyfer atgynhyrchu ffotograffau a delweddau eraill gyda graddiannau lliw, ond yn addas ar gyfer delweddau symlach fel graffigau neu logos gydag ardaloedd o liw solet. 

Mae delweddau GIF yn cael eu cywasgu gan ddefnyddio techneg  Lempel–Ziv–Welch (LZW) i leihau maint y ffeil heb ddiraddio'r ansawdd weledol. Rhoddwyd patent ar y dechneg gywasgu hon yn 1985. Bu dadl ynghylch y trwyddedu rhwng deiliad y patent ar y feddalwedd, Unisys, a Compuserve yn 1994 a arweiniodd at ddatblygu'r safon PNG (Portable Network Graphic). Erbyn 2004, roedd yr holl batentau perthnasol wedi dirwyn i ben.