Anglo-Gatholigiaeth
Gwedd
Traddodiad o fewn yr eglwysi Anglicanaidd sydd yn pwysleisio'r traddodiad Catholig yw Anglo-Gatholigiaeth. Fel rheol, nid yw Anglo-Gatholigion yn derbyn goruchafiaeth ac anffaeledigrwydd y Pab, nac yn ystyried eu hunain yn rhan o'r Eglwys Gatholig Rufeinig, ond mae rhai ohonynt yn defnyddio defodau'r Eglwys Gatholig Rhufeinig ac yn dysgu dogma'r Eglwys honno.