Ysmygu
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/83/Smoking_equipment.jpg/200px-Smoking_equipment.jpg)
Arferiad yw ysmygu lle mae rhywbeth, gan amlaf tobaco, yn cael ei losgi a'r mwg yn cael ei flasu neu'i anadlu. Caiff hyn ei wneud gan amlaf am fod y broses o losgi yn rhyddhau'r cyffur sydd yn yr hyn sy'n cael ei ysmygu e.e. nicotîn ac yna cânt eu cymryd i mewn i'r corff trwy'r ysgyfaint. Mae ysmygu hefyd yn medru bod yn rhan o ddefodau, er mwyn achosi trans a rhyddhad ysbrydol. Y dyddiau yma, ysmygu sigarennau sydd naill ai wedi'u creu yn ddiwydiannol neu wedi'u rholio gan law sydd fwyaf cyffredin. Mae ffyrdd eraill o ysmygu yn cynnwys pibau, sigars, hookahs a bongs er nad yw rhain mor gyffredin.
Mae ysmygu yn achosi trawiad ar y galon, rhydweliau'n culhau, canser yr ysgyfaint ac anawsterau anadlu. Mae tybaco'n cynnwys nicotin sy'n gwneud i bobl fynd yn ddibynnol arno.