William Wycherley

Oddi ar Wicipedia
William Wycherley
Ganwyd1640 Edit this on Wikidata
Clive Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd8 Ebrill 1641 Edit this on Wikidata
Bu farw31 Rhagfyr 1715 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Plain Dealer Edit this on Wikidata
PriodLetitia Robartes Edit this on Wikidata

Dramodydd o Sais oedd William Wycherley (16411 Ionawr 1716) a flodeuai yn ystod Oes yr Adferiad.

Ganwyd yn Clive ger yr Amwythig, yn fab i stiward Marcwis Caerwynt. Aeth i gael ei addysg yn Ffrainc yn 15 oed, ac yno fe drodd yn Gatholig. Dychwelodd i Loegr i astudio'r gyfraith, a chafodd ei dderbyn i Goleg y Frenhines, Rhydychen yn 1660, er na derbyniodd radd. Tua'r cyfnod hwn fe drodd yn ôl at Brotestaniaeth. Mae'n bosib iddo deithio i Sbaen yn ddiplomydd yn y 1660au, ac mae'n debyg iddo frwydro yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd yn 1665. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd oherwydd ei ddyled, a throdd yn ôl at yr Eglwys Gatholig yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II.[1]

Ymhlith ei ddramâu mae Love in a Wood; or, St. James’s Park (1671), The Gentleman Dancing-Master (1672), The Plain-Dealer (1676), a The Country-Wife (1677).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) William Wycherley. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Awst 2019.