William Lloyd (cerddor)

Oddi ar Wicipedia
William Lloyd
Ganwyd1786 Edit this on Wikidata
Llaniestyn Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 1852 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cerddor ac athro cerddoriaeth o Gymro oedd William Lloyd (17867 Mehefin 1852). Ganwyd yn Rhos-goch, Llaniestyn, Llŷn. Credir ei fod yn borthmon. Byddai Lloyd yn cynnal dosbarthiadau cerdd o amgylch Llŷn ac arwain cymanfaoedd; hefyd rhoddai hyfforddiant yn ei gartref.[1]

Cyfansoddodd lawer o emyn-donau, ond y dôn y mae'n fwyaf adnabyddus amdani heddiw yw Meirionydd, sy'n ymddangos yn holl lyfrau emynau Cymraeg a nifer o casgliadau Saesneg hefyd. Yn wreiddiol, galwodd Lloyd y dôn yn Berth, ac o dan yr enw hwn yr ymddangosodd gyntaf mewn print, yn Caniadaeth Seion (Llanidloes: Richard Mills, 1840).

Yn ôl ei garreg fedd ym mynwent eglwys Llaniestyn bu farw 7 Mehefin 1852, yn 66 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert Thomas Jenkins (1970), "LLOYD, WILLIAM (1786-1852), cerddor", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 17 Chwefror 2021
  2. Maggie Humphreys; Robert Evans (1 January 1997). Dictionary of Composers for the Church in Great Britain and Ireland (yn Saesneg). A&C Black. t. 211. ISBN 978-0-7201-2330-2.