Cafodd gytundeb recordiau gyda'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Prydeinig Stock, Aitken & Waterman ym 1988 ac roedd nifer o'i chaneuon yn llwyddiannus ledled y byd. Lleihaodd ei phoblogrwydd, fodd bynnag, ar ddechrau'r 1990au gan beri iddi adael Stock, Aitken & Waterman ym 1992. O ganol y 1990au, ymbellhaodd Minogue ei hun o'i gweithiau cynharaf gan geisio sefydlu'i hun fel cyfansoddwraig a pherfformwraig annibynnol. Cafodd ei gweithiau gyhoeddusrwydd mawr ond ni lwyddodd ei recordiau i ddenu cynulleidfa sylweddol. Ail-greodd ei hun gan ad-ennill ei phoblogrwydd yn 2000 drwy ei fideos cerddorol a'i pherfformiadau byw.
Yn Awstralia ac Ewrop, ystyrir Minogue fel un o enwogion a symbolau rhywiol mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth. Wedi iddi gael ei diystyru yn gynnar iawn yn ei gyrfa gerddorol gan nifer o feirniaid yn Awstralia, mae bellach yn cael ei chydnabod am ei llwyddiannau niferus. Derbyniodd OBE yn y flwyddyn 2008 am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Mae wedi gwerthu dros 60 miliwn o recordiau. mwy...
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd ac am ddim yw Wicipedia. Ailddechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ar ôl i ni gael meddalwedd newydd. Rwan mae gennym ni 280,531 o erthyglau yn y fersiwn Cymraeg.
Gweler y dudalen gymorth a chwaraewch yn y pwll tywod i ddysgu sut ellwch chi olygu unrhyw erthygl rwan.
Diolch am eich amser a mwynhewch y wefan!