Thomas Baddy

Oddi ar Wicipedia
Thomas Baddy
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Bu farwMehefin 1729 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Rathmell Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gweinidog, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Baddy (m. 1729) yn emynwr a chyfieithydd. Roedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Ninbych, un o'r cynharaf yng ngogledd Cymru.[1]

Ychydig a wyddys amdano. Ymddengys iddo gael ei eni yng ngogledd Cymru, efallai o haniad Seisnig. Tua 1693 aeth yn weinidog Ymneilltuol i Ddinbych lle arosodd hyd ei farwolaeth yn 1729. Dywedir ei fod yn ddyn pur gyfoethog a boneddigaidd. Roedd yn bregethwr poblogaidd.[2]

Cyhoeddodd trosiad mydryddol o rai o 'r Salmau ynghyd â rhai o emynau ei hun dan yr enw Caniad Solomon yn 1725. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys Pasc y Cristion, cyfieithiad o waith Saesneg gan Thomas Doolittle.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig (Lerpwl, 1893).
  2. 2.0 2.1 Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig (Lerpwl, 1893).