Sgwrs:COVID-19

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tybed a fedr rhywun wiro fod y diagram ar frig y wybodlen yn Gymraeg, os g yn dda. I mi mae'n ymddangos yn Saesneg, er fy mod wedi'i chyfieithu. Amhosb clkirio'r cache yn y dull arferol, am ryw reswm. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:30, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]

Ydi, mae'n ymddangos yn Gymraeg. Gobeithio fod ti'n cadw'n iawn! --Dafyddt (sgwrs) 15:32, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
O! Gwych! Ydw diolch i ti! Piti am Hacio'r Iaith eleni, gobeithio y cawn gwrdd yn y gynhadledd nesa, beth bynnag fydd ein hanes a'r aflwydd Cofid-19 ma! Dilch eto! R... Llywelyn2000 (sgwrs) 16:12, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Wir? I mi, mae'r labeli ar y diagram yn Saesneg. (Cliriais fy cache, ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth.) Mae'r diagram yn dod yn syth o Wicidata. Cadw'n ddiogel, bawb! Craigysgafn (sgwrs) 16:31, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Dal mlan.. pan glicies i arno, roedd e'n Gymraeg. Ond dyw'r llun bawd ddim yn Gymraeg. Mae'r llun gwreiddiol yn ymddangos yn Gymraeg os mai Cymraeg yw iaith y porwr - https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/9/96/Symptoms_of_coronavirus_disease_2019_2.0.svg Nid yw'r meintiau llai yn dangos hyn (eto, o leiaf) --Dafyddt (sgwrs) 17:03, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch! Fel arfer dw i'n agor delwedd svg yn Inkscape ac yn ei gyfieithu, a'i gadw efo olnod cy. Y tro yma, mi ddefnyddiais svg Translate, ac uwchlwytho'r cyfieithiad i'r un ddelwedd. HY mae un delwedd yn fod i gymryd cannoedd o ieithoedd, a dylai ymddangos yn Gymraeg ar cywici ayb. Dw i di gadael neges ar Comin yn gofyn am help; mae'n rhywbeth yn dweud wrtha i fod angen troi'r swits ymlaen! Neu problem mynd drwy wd! Cymrwch ofal! ON Os mai iaith y porwr sy'n penderfynu, yna mae gennym broblem! Faswn i'n dweud fod 90% o borwyr ein darllenwyr yn Saesneg! Angen over-ride! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:07, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Mae weld yn iawn erbyn hyn. Ai'r storfa oedd yn araf i ddiweddaraf felly neu ai'r fersiwn am 18:50 a drwsiodd y peth? --Dafyddt (sgwrs) 20:22, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Cytuno! Bendigedig! Diolch! Craigysgafn (sgwrs) 21:58, 18 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr IAWN i chi'ch dau am ymateb. Roedd problem gyda SVGs mwy na 0.5 Mb, fel y gwelir yma. Fe drwsiwyd y ffeil, ac fel rydych yn ei ddweud, mae bellach yn gweithio! Ymlaen i'r broblem nesa rwan!!! Diolch eto! Cofion... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:12, 19 Mawrth 2020 (UTC)[ateb]