Tywysog Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhestr Tywysogion Cymru)
Cerflun o Owain Glyn Dŵr yng Nghorwen.

Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydlu Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.

Tywysogion brodorol Cymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Oes y Tywysogion

Tarddiad y teitl[golygu | golygu cod]

Darlun fodern o Owain Gwynedd


Disgrifiodd Owain Gwynedd ei hun fel "Owinus, rex Wallie" (Owain, brenin Cymru) yn ei lythr cyntaf o dri at frenin Ffrainc; yr ymdrech cyntaf gan arweinydd Cymreig i sefydlu perthynas diplomataidd gyda brenin cyfandirol. Yn 1163, dim ond 4 mis ar ol cyfarfod Woodstock, dechreuodd ddisgrifio'i hun fel "Tywysog y Cymry". Mewn ymateb, ysgrifennodd Thomas Beckett mewn llythyr at y Pab Alecsander III, "the Welsh and Owain who calls himself prince" ac fod "the lord king was very moved and offended". Dywed yr awdur Roger Turvey fod newid hyn yn un arwyddocaol i Owain ac y byddai ef a'r brenin Harri yn gwybod yn iawn fod "princeps" yn cyfeirio at lywodraethwr sofran gwlad yng nghyfraith Rhufeinig. Dywed Huw Price fod y newid yn arwydd o wrthod israddoldeb i'r brenin tra bod J. Beverly Smith yn awgrymu mai adlewyrchu ei safle fel arweinydd di-gwestiwn Cymru oedd Owain. Dywed Sean Duffy fod y teitl wedi'i newid i anwybyddu Harri.[2]

Diwedd y ddefnydd Gymreig[golygu | golygu cod]

Ffynnon Llywelyn, Cilmeri, Powys. Dywedir mai dyma safle y golchwyd pen Llywelyn ar ôl iddo gael ei ladd a'i dorfynyglu (decapitate).

Yn dilyn uno Cymru dan reolaeth tywysogion Llywelyn, arweiniodd Brenin Edward I o Loegr 15,000 o ddynion i gipio Cymru yn dilyn sawl ymdrech aflwyddiannus gan frenhinoedd Lloegr i gadw gafael ar Gymru. Arweiniwyd y Cymry gan Llywelyn ap Gruffydd a wnaeth hefyd ymgais i recriwtio mwy o filwyr Cymreig yn y canolbarth.[3][4]

Yn 1267, adnabyddywd Llywelyn fel tywysog Cymru annibynol gan goron Lloegr yng Nghytundeb Maldwyn a adnabyddodd hefyd hawl i lywelyn dderbyn wrogaeth gan yr uchelwyr brodorol. Llywelyn oedd yr unig dywysog i goron Lloegr ei adnabod yn y modd hyn ond roedd yn rhaid iddo dalu 25,000 o farciau er gwaethaf ei incwm a oed o bosib o gwmpas 5,000 o farciau. Yn y pendraw, gwrthododd Llywelyn dalu a gwrthododd dalu gwrthogaeth i Edward. Goresgynodd fyddin Edward ac ennill brwydr yn ei erbyn gan orfodi termau llym Cytundeb Aberconwy gan golli tir a llawer o arian. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — gan gynnwys cestyll Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.[5]

Yn 1282, fe wnaeth trethi newydd a cham-drin gan swyddogion lleol y goron arwain at wrthryfel Cymreig. Cynigwyd iarllaeth Seisnig i Llywelyn ond ymatebodd Llywelyn fod pobl Eryri yn;

anfodlon gwneud gwrogaeth i ddieithryn y mae ei iaith, ei arferion a'i ddeddfau yn gwbl anghyfarwydd iddynt. Os pe bai hynny'n digwydd gallent gael eu caethiwo am byth a chael eu trin yn greulon.
Carreg goffa Llywelyn ap Gruffudd, yng Nghilmeri lle cafodd ei ladd yn 1282.

Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. [5] Lladdwyd Llywelyn ym Mrwydr Pont Orewin gan filwyr o Loegr mewn tric cudd yn ôl un ffynhonnell. Roedd Llywelyn dan yr argraff ei fod yn mynd yno ar gyfer trafodaethau. Parediwyd pen Llywelyn trwy Lundain a'i osod ar bigyn Tŵr Llundain gyda choron sarhaus o ddail llawryf.[6]

Dal Dafydd[golygu | golygu cod]

Casglodd Dafydd benaethiaid Gwynedd yngyd yn Ninbych i geisio ail-ddechrau rhyfel egniol ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Curwyd Dafydd ger Dolbadarn gan Iarll Warwick. Ciliodd Dafydd gan ddioddef o newyn ac oerni i Nanhysglain ger Bera Mawr. Ar 21 Mehefin 1283, bradychwyd y criw gan Einion ap Ifor, Esgob Bangor, Gronwy ab Dafydd a'u cludo i Gastell Rhuddlan ac Edward. Cymerwyd Dafydd dan warchodlu cryf i Amwythig a chafwyd ef yn euog o flaen 100 o farwniaid, 11 iarll ac Edward ei hun.[7] Ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg.[8]

Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd gan gynnwys rhan tybiedig o groes Iesu Gristi gysegr Edward y Coffeswr yn San Steffan i ddangos fod coron Lloegr wedi cymeryd coron Cymru.[8]

Owain Glyndŵr[golygu | golygu cod]

Arfbais Owain Glyndŵr.

Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn Glyndyfrdwy gyda 300 o gefnogwyr. Cefnogwyd Glyndŵr gan Rhys ap Tudur Fychan, Gwilym ap Tudur, Rhys Ddu, Rhys Gethin, Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd ac yn 1401, Henry Dunn a roddodd gyngor ar frwydro. Enillodd Gwilym ap Tudur Conwy yn 1401 ac enillodd Glyndŵr Frwydr Hyddgen. Lladdwyd un o gefnogwyr Glyndŵr, Llywelyn ap Gruffudd Fychan gan y brenin yn 1401 a dechreuwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402. Cynhaliwyd Seneddau ym Machynlleth yn 1404 ac yn Harlech yn 1405. Ysgrifennwyd Lythyr Pennal yn 1406 gan gynnwys ei weledigaeth dros adfer Eglwys annibynnol Cymru a'i chanolbwynt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ogystal a chreu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Yn 1408 collwyd cestyll Aberystwyth a Harlech a llosgwyd ei gartref Sycharth a bu brwydrau ola'r gwrthryfel yn 1412. Bu farw ei fab Gruffuddyn 1411 yn nhŵr Llundain ac hefyd yn hwyrach ei wraig Margaret Hanmer a'i ferched Alys a Catrin.[9] Roedd Llythyr Pennal a Sêl Fawr Owain yn symbolau o hyder y cyfnod. Fe wrthododd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr bardwn swyddogol tan 1421.[10]

Rhestr Tywysogion Cymru Brodorol[golygu | golygu cod]

Llun Enwau Teyrnas gwreiddiol Teitl a nodiadau Blynyddoedd â thystiolaeth Manylion marw
Defnyddiwyd y term Brenin Cymru neu Brenin y Brythoniaid cyn y cyfnod hwn
Gruffudd ap Cynan Gwynedd Tywysog...y Cymry oll[11] 1136[11]

(Yn ôl Brut y Tywysogion)

Bu farw yn 1137 yn 81-82 mlwydd oed.
Owain ap Gruffudd

Owain Gwynedd

Gwynedd Tywysog Cymru[12]

Tywysog y Cymry; y person cyntaf i ddefnyddio'r arddull hon i ddynodi annibyniaeth, sofraniaeth a goruchafiaeth dros lywodraethwyr brodorol eraill[13][14][15]

~1165[14][15] Bu farw yn 1170 yn 69-70 mlwydd oed.
Rhys ap Gruffydd

Yr Arglwydd Rhys

Deheubarth Tywysog Cymru[16] 1165[17]

1184[17]

1197[18][17]

Bu farw yn 1197, yn 65 mlwydd oed.
Llywelyn ap Iorwerth

Llywelyn Fawr

Gwynedd Tywysog Cymru[19]

Cyfeirir ato gan groniclwyr Cymraeg a Saesneg fel "Tywysog Cymru". Daliodd "dywysogaeth" Cymru ond defnyddiodd y teitl "Tywysog Aberffraw ac arglwydd yr Wyddfa", gydag Aberffraw yn awgrymu goruchafiaeth dros Gymru gyfan a gwrogaeth gan bob Brenin arall[20]

1240[11]

(Yn ôl Brut y Tywysogion)

Bu farw yn 1240 yn 66-67 mlwydd oed.
Dafydd ap Llywelyn Gwynedd Tywysog Cymru[12][21] 1245[21] Bu farw yn sydyn yn 1246, yn 33 mlwydd oed.
Llywelyn ap Gruffudd

Llywelyn ein Llyw Olaf

Gwynedd Tywysog Cymru[12][22] 1255[11]1258, 1262, 1267[23] Lladdwyd gan filwyr o Loegr dan gochl trafodaethau heddwch ar 11 Rhagfyr 1282 yn 59 oed. Parêdiwyd ei ben ar bolyn o amgylch Llundain a'i roi ar dwr Llundain.[24]
Dafydd ap Gruffydd Gwynedd Tywysog Cymru[12] 1282[12][25], 1283[26] Llusgwyd drwy'r stryd gan geffyl cyn cael ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteri yn Amwythig ar 3 Hydref 1283 ar ôl cael ei ddal gan filwyr Lloegr. Rhoddwyd ei ben ar bolyn wrth pen ei frawd.
Rheolaeth Seisnig yn dechrau ar ôl lladd Llywelyn & Dafydd ap Gruffydd
Madog ap Llywelyn Gwynedd Tywysog Cymru[12] 1294[12][27] Cadwyd yn garcharor yn Llundain
Owain ap Tomas

Owain Lawgoch

Gwynedd Tywysog Cymru[28] 1363[28] Llofruddiwyd Gorffennaf 1378[28]
Owain ap Gruffydd

Owain Glyndŵr

Powys, Deheubarth, Gwynedd Tywysog Cymru[12] 1400[12] Bu farw 1415, yn 55-56 mlwydd oed ac fe gladdwyd yn gyfrinachol.

Tywysogion anfrodorol, Seisnig[golygu | golygu cod]

Enwyd mab brenin Lloegr, a anwyd yng Nghaernarfon yn "Dywysog Cymru" yn 1301 a pherchnogwyd holl diroedd y teuluoedd a rhyfelodd yn erbyn y goron Seisnig. Mewn ymateb i gwymp Teyrnas Gwynedd, dywedodd un bardd, "Ac yna taflwyd Cymru oll i'r llawr".[5]

Roedd defnydd o'r teitl yn parhau hefyd erbyn yr 17g. Yn 1616, fe wnaed Charles I yn Dywysog Cymru yng ngastell Ludlow. Disgrifir Cymru fel 'dominion and principalities of Wales and the marches" a statws yr orsedd fel "princely throne of Wales" gan awdur yn yr un flwyddyn.[29]

Yn 1911, penderfynodd bwyllgor yn San Steffan fod Cymru yn dywysogaeth ac nid yn frenhiniaeth ac felly ni ddylid cynnwys arfau Cymru yn arfau y Deyrnas Unedig. Yn 1912, ychwanegwyd arfbais Cymru i gymryd lle un Saxony ar standard (baner) "Tywysog Cymru".[30]

Rhestr o dywysogion anfrodorol Seisnig[golygu | golygu cod]

  1. Edward o Gaernarfon 1301-1307
  2. Edward, y Tywysog Du 1343-1376
  3. Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
  4. Harri Mynwy 1399-1413
  5. Edward o Westminster 1454-1471
  6. Edward mab Edward IV 1471-1483
  7. Edward o Middleham 1483-1484
  8. Arthur Tudur 1489-1502
  9. Harri Tudur 1504-1509
  10. Harri Stuart 1610-1612
  11. Siarl Stuart 1616-1625
  12. Siôr mab Siôr I 1714-1727
  13. Frederick 1729-1751
  14. Siôr mab Frederick 1751-1760
  15. Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
  16. Albert Edward 1841-1901
  17. Siôr mab Edward VII 1901-1910
  18. Edward mab Siôr V 1910-1936
  19. Siarl Mountbatten-Windsor (1958-2022)[31]
  20. William Mounbatten-Windsor (2022 - )[32]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hanes Cymru, t. 138, John Davies, Penguin 1990
  2. Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
  3. "BBC - History - British History in depth: Wales: English Conquest of Wales c.1200 - 1415". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-08.
  4. "BBC Wales - History - Themes - Welsh language: After the Norman conquest". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-03-21.
  5. 5.0 5.1 5.2 Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 35–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
  6. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  7. Evans, E. Vincent (1802). Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddogol Eisteddfod Bangor, 1890. tt. 188–192.
  8. 8.0 8.1 Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 35–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
  9. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 137–144. ISBN 978-1-84990-373-8.
  10. Williams, Gruffydd Aled (2015). Dyddiau olaf Owain Glyndŵr. Y Lolfa. tt. 13–14, 20. ISBN 978-1-78461-156-9.
  11. 11.0 11.1 11.2 11.3 "Brut y Tywysogion". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-05-24.
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 12.4 12.5 12.6 12.7 12.8 Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1. Prince of the Welsh
  13. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 24. ISBN 978-0-14-014824-4.
  14. 14.0 14.1 Huw, Pryce (1998). "Owain Gwynedd And Louis VII: The Franco-Welsh Diplomacy of the First Prince of Wales". Welsh History Review 19 (1): 1–28. https://journals.library.wales/view/1073091/1083764/4.
  15. 15.0 15.1 Turvey, Roger (2013). Owain Gwynedd: Prince of the Welsh (yn Saesneg). Y Lolfa. tt. 84–86. ISBN 978-1-84771-694-1.
  16. Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 75. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  17. 17.0 17.1 17.2 Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 75, 96. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  18. "Brut y Tywysogion". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-05-24.
  19. "Llywelyn ab Iorwerth", Dictionary of National Biography, 1885-1900 Volume 34, https://en.wikisource.org/wiki/Dictionary_of_National_Biography,_1885-1900/Llywelyn_ab_Iorwerth, adalwyd 2023-11-09
  20. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 321, 323. ISBN 978-0-14-014824-4.
  21. 21.0 21.1 Pryce, Huw (2010-10-15). The Acts of Welsh Rulers, 1120-1283 (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 78, 479. ISBN 978-0-7083-2387-8.
  22. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 22, 24, 49. ISBN 978-0-14-014824-4.
  23. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. tt. 384, 385, 386, 495. ISBN 978-0-14-014824-4.
  24. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  25. Nodyn:Cite DWB
  26. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 386. ISBN 978-0-14-014824-4.
  27. Carpenter, D. A. (2004). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. Internet Archive. London : Penguin. t. 513. ISBN 978-0-14-014824-4.
  28. 28.0 28.1 28.2 Jones, John Graham (2014-11-15). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78316-170-6.
  29. Powell, Daniel (1616). The love of Wales to their soveraigne prince, ... 1616. Internet Archive.
  30. Carr, Harold Gresham; Hulme, F. Edward (Frederick Edward) (1961). Flags of the world. Internet Archive. London, New York, Warne. t. 33.
  31. Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, J.G. Edwards, Gwasg Prifysgol Cymru 1991
  32. "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.