Owen Roberts

Oddi ar Wicipedia
Owen Roberts
Ganwyd1 Chwefror 1939 Edit this on Wikidata
Niwbwrch Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PriodAnn Clwyd Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr o Gymro a rheolwr ym myd darlledu oedd Owen Dryhurst Roberts (1 Chwefror 193923 Hydref 2012).[1]

Ganwyd yn Niwbwrch, Ynys Môn, yn fab i brifathro'r ysgol leol, a mynychodd Ysgol Ramadeg Llangefni. Astudiodd Hanes Modern yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac roedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Ymunodd â'r cwmni teledu TWW ym 1961 fel cyfarwyddwr dan hyfforddiant. Daeth yn olygydd y rhaglen newyddion Y Dydd ym 1964 ac yn Bennaeth Newyddion HTV Cymru ym 1968. Un o'i raglenni cynnar oedd The Just City, rhaglen ddogfen am y Cymry a frwydrodd ar ochr y Gweriniaethwyr yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Ym 1972 symudodd i BBC Cymru, gan gymryd swydd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes ac yn hwyrach Pennaeth Cynorthwyol Rhaglenni.[1]

Ym 1963 priododd Ann Clwyd, Aelod Seneddol dros Gwm Cynon ers 1984. Yn dilyn damwain car yn y 1970au cafwyd diagnosis o sglerosis ymledol arno.[1] Bu farw Owen o niwmonia a gafwyd tra'n aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru.[2] Wedi ei farwolaeth, bu ei weddw Ann Clwyd yn datgan yn gyhoeddus ei dicter tuag at nyrsys yr ysbyty a'u cyhuddo o gam-drin ei ŵr.[2][3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Stephens, Meic (29 Tachwedd 2012). Owen Roberts: Journalist who established himself as a pioneer of Welsh-language television. The Independent. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Hill, Amelia (4 Rhagfyr 2012). Ann Clwyd: my husband died like a battery hen in hospital. The Guardian. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  3.  AS yn beirniadu nyrsys am y gofal a gafodd ei diweddar ŵr. Golwg360 (4 Rhagfyr 2013). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.
  4.  AS yn beirniadu gofal nyrsys. BBC (4 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2013.