Meiriadog (sant)
Meiriadog | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 628 ![]() Armorica ![]() |
Bu farw | 5 g ![]() Gwened ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad, esgob Catholig ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c6/Vannes_-_cath%C3%A9drale%2C_vitrail_des_saints_Patern_et_M%C3%A9riadec_Detail_Metiadec.jpg/220px-Vannes_-_cath%C3%A9drale%2C_vitrail_des_saints_Patern_et_M%C3%A9riadec_Detail_Metiadec.jpg)
Sant Celtaidd oedd Meiriadog, Llydaweg: Meriadeg, Cernyweg: Meriasek (5ed neu 6g). Mae ganddo sawl gŵyl fabsant: ar y dydd Gwener cyntaf ym Mehefin, 9 Tachwedd neu 7 Mehefin yn ôl ffynhonnell Lydewig.[1]
Dywed rhai ffynonellau ei fod yn enedigol o Gymru, eraill mai Llydawr oedd. Teithiodd i Gernyw lle sefydlodd gapel yn Camborne, yna symudodd (neu dychwelodd) i Lydaw, lle cysylltie ef a Plouganoù ac a Sant-Yann-ar-Biz (Traoñ Meriadeg gynt).
Ceir rhywfaint o wybodaeth amdano o Beunans Meriasek, drama mewn Cernyweg sy'n dyddio o 1504. Cysylltir ef a Cynan Meiriadog, oedd yn rheolwr Llydaw ar y pryd. Dywedir fod Cynan yn dymuno trefnu priodas wleidyddol iddo, ac i Feiriadog ffoi i Gernyw i osgoi hynny.
Dywed Dewi Roberts mai ef a roddodd ei enw i bentref Cefn Meiriadog yn Sir Ddinbych.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Dewi Roberts The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch. 1999)