Margaret Lloyd (aelod o'r gynulleidfa Forafaidd)
Margaret Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1709 Llangystennin |
Bu farw | 8 Medi 1762 Leeds |
Man preswyl | Riding Gorllewinol Swydd Efrog, Leeds |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ymgyrchydd |
Aelod o'r Gynulleidfa Forafaidd oedd Margaret Lloyd (27 Mai 1709 – 8 Medi 1762) ac un o deulu Llwydiaid Hendre-waelod a Llangystennin (ceir cofysgrifau yn Eglwys Llangystennin). Fe'i ganed yn Llangystennin (neu weithiau Llangwstennin), i'r de-ddwyrain o Llandudno a Llanrhos ym Mwrdeisdref Sirol Conwy.[1] Bu ei brawd Robert Lloyd (1707 - 1753) yn rheithor Aber.
Wedi symud i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i'w hachos.[2] Mae'r Eglwys Forafaidd yn fudiad Protestanaidd. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Swydd Efrog i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y "chwiorydd dibriod".
Fe'i priodwyd yn Swydd Efrog ar 27 Awst 1744, gyda Thomas Moore. Gwrthryfelodd y ddau yn erbyn yr unbennaeth Almaenaidd a lywodraethai'r genhadaeth Forafaidd yn Swydd Efrog, a diswyddwyd hwy. Yn ddiweddarach, fe gefnodd y ddau ar Eglwys y Brodyr, ond yn y diwedd dychwelon nhw ati.[3][4][5][2][6]
Bu farw Margaret Lloyd yn Leeds, 8 Medi 1762, a'i chladdu yn "Erw'r Brodyr" yn Fulneck, Pudsey yn West Riding Swydd Efrog.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969), Bangor (cyhoeddwyd 1953).
- ↑ "A Register of Members of the Moravian Church, and of Persons Attached to Said Church in this Country and Abroad, between 1727 and 1754". Archive.org. Cyrchwyd 26 Mawrth 2016.
- ↑ 2.0 2.1 "LLOYD (later MOORE ), MARGARET". Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-LLOY-MAR-1709. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
- ↑ Crefydd: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977. Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Jenkins, Robert Thomas (1938). Y Cymmrodor. Honourable society of cymmrodorion. tt. 28–9.