Maesygarnedd

Oddi ar Wicipedia
Maesygarnedd
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMaesygarnedd Estate Edit this on Wikidata
LleoliadLlanbedr Edit this on Wikidata
SirLlanbedr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr184.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.822687°N 4.016423°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr Cadw4768 Edit this on Wikidata

Ffermdy traddodiadol yw Maesygarnedd (neu Maes-y-garnedd), sef man geni John Jones yn 1597, un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth Siarl I, brenin Lloegr a brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr. Saif ym mhen pellaf Cwmnantcol, gyda'r Foel Wen (414m) i'r gogledd-orllewin, y Foel Ddu (477m) i'r gogledd, y Rhiniogydd (720m) i'r dwyrain a mynydd Moelfre (589m) i'r de-orllewin. Cyfeirnod Grid yr OS: SH6420026920.[1] Tua 5 milltir i'r gorllewin mae Salem, Cefncymerau, Pentre Gwynfryn, y capel a ddarlunir yn y llun enwog Salem gan Sydney Curnow Vosper.

Ceir Bwlch Drws Ardudwy gerllaw, bwlch, sy'n gorwedd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach; roedd y bwlch o bwysigrwydd mawr yn y Canol Oesoedd fel y cyswllt rhwng Ardudwy ar yr ochr orllewinol i'r Rhinogau a'r ardaloedd i'r dwyrain.

Cofrestrwyd yr adeilad, a 4 o adeiladau amaethyddol eraill, gerllaw, gan Cadw:

  • y prif dŷ o tua'r 1610au: 4768
  • beudu, o'r 16g neu'r 17g, sydd mewn cyflwr da: 4768
  • cwt peiriannau, ar ochr deheuol y tŷ: 81990
  • dau gwt moch: 82011
  • beudy / ysgubor maes, rhyw c250m i'r de-orllewin o'r ffermdy.

Yn ôl Cadw, disgrifiwyd y tŷ yn 'newydd' yn 1622, er y gall hyn olygu ei fod 'fel newydd'; mae'n bosib i'r ffermdy gael ei godi ar gyfer tad John Jones, sef Thomas ap John Ieuan ap Huw.[2]

John Jones[golygu | golygu cod]

Oherwydd nad ef oedd y mab hynaf gyrrwyd ef i Lundain i wasanaethu teulu Myddleton. Priododd Margaret merch John Edwards, Stanstey.[3]

Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr, ymunodd John Jones â byddin y Senedd. Erbyn 1646 roedd yn ymladd yng ngogledd Cymru ym myddin Syr Thomas Mytton fel Cyrnol, a'r flwyddyn wedyn daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.

Roedd yn aelod o'r cwrt a fu'n profi Siarl I ar ddiwedd yr ail Ryfel Cartref, ac roedd yn un o'r rhai a roddodd eu henwau ar warant marwolaeth y brenin.

Ym 1650 aeth i Iwerddon yn brif gomisiynydd i weinyddu'r wlad, ac yn 1655 gwnaed ef yn gomisiynydd dros ogledd Cymru. Roedd ei wraig gyntaf wedi marw yn yr Iwerddon y 1651, ac y 1656 ail-briododd a Katherine, chwaer Oliver Cromwell.[4]

Yn dilyn marwolaeth Cromwell ac ymddiswyddiad ei fab Richard Cromwell, fe gymerwyd John Jones yn garcharor yn 1660. Fe'i cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth, a chafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru yn Llundain ar 17 Hydref 1660.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd 19 Mai 2024.
  2. britishlistedbuildings.co.uk; gwefan British listed Buildings; adalwyd 19 Mai 2024.
  3. J. Graham Jones (1998). The History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 70. ISBN 978-0-7083-1491-3.
  4. Arthur Herbert Dodd. "Jones, John, Maesygarnedd, Sir Feirionnydd, a'i deulu, 'y brenin-leiddiad'". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2021.