John Meirion Morris

Oddi ar Wicipedia
John Meirion Morris
Ganwyd14 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw18 Medi 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Celf Lerpwl Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.johnmeirionmorris.org/, http://www.johnmeirionmorris.org/cymraeg/ Edit this on Wikidata

Cerflunydd o Gymro oedd John Meirion Morris (14 Mawrth 193618 Medi 2020).[1][2]

Ganwyd Morris yn Llanuwchllyn, ger Bala, Gwynedd lle roedd ei rieni yn berchen ar siop. Rhwng 1956 a 1960, astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl ac yna aeth ymlaen i wneud blwyddyn arall ôl-radd mewn cerflunio yn yr un coleg.[3] Gweithiodd am gyfnod fel athro celf yn Llanidloes cyn cael ei swydd ddarlithio cyntaf yn Leamington Spa. Aeth ymlaen i ddarlithio ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana ac ym Mhrifysgol Lerpwl cyn treulio rhai blynyddoedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd yn gyfrifol am greu sawl penddelw yn anfarwoli rhai o ffigyrau diwylliannol amlycaf Cymru, yn cynnwys Saunders Lewis, Waldo, Dr Gwynfor Evans, Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell.

Symudodd yn ôl i Lanuwchllyn yn 1977, gan ganolbwyntio ar ei waith celf, a "bwriadu dylunio cerrig beddau am gyfnod" yn ôl ei ferch, Iola Edwards. Yn ddiweddarach aeth yn ôl i ddarlithio, ym Mhrifysgol Bangor y tro hwn, cyn ymddeol tua dechrau'r 1990au a chanolbwyntio unwaith eto ar ei waith celf.

Yn 2001, derbyniodd Wobr Glyndŵr am ei gyfraniad aruthrol i fyd y celfyddydau yng Nghymru.

Bu farw yn 84 mlwydd oedd gan adael ei wraig, Gwawr, eu merch, Iola a'u mab, Alwyn. Mae ei gerflun 'Pieta' yn cofio mab arall, Dylan, a fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn 2002.[2]

Arddangosfeydd[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau ac Erthyglau[golygu | golygu cod]

  • Y Weledigaeth Geltaidd’ gan John Meirion Morris. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2002
  • The Celtic Vision’ by John Meirion Morris. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2003.
  • John Meirion Morris ‘artist’, gyda’r Athro Gwyn Thomas. Cyhoeddwyr: Lolfa, 2011.
  • Iwan Bala ‘Certain Welsh Artist’ – erthygl wedi'i ysgrifennu gan John Meirion Morris, called ‘Imagination and the Magic of tradition’. Seren Books, 1999.
  • Patrick Hannay, ‘Touchstone’ cylchgrawn pensaeriniaeth – erthygl editorial, October, 1999.
  • John Lane and Satis Kumar, ‘ Images of Earth & Spirit’ ( John Meirion Morris A Sculptor of Spirit, erthygl gan Professor Peter Abbs ), 2003.
  • Peter Abbs, ‘Against the Flow’, Routledge Falmer, Llundain, 2003.
  • ‘Urthona’ cylchgrawn Buddistaidd o adnewyddu diwylliannol, Celf, Barddoniaeth, Syniadau, Ymweliadau, erthygl: ‘The Inner Kingdom’ gan John Meirion Morris, Caergrawnt, Issue25, 2008.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Amdan". John Meirion Morris. Cyrchwyd 2024-02-06.
  2. 2.0 2.1 Teyrngedau i un o artistiaid 'mwyaf a phwysicaf' Cymru , BBC Cymru Fyw, 21 Medi 2020.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-28. Cyrchwyd 2018-11-29.