I Fyd Sy Well
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Sian Eirian Rees Davies |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Awst 2005 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781843235736 |
Nofel gan Sian Eirian Rees Davies yw I Fyd Sy Well a enillodd iddi Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005.
Cefndir[golygu | golygu cod]
Bu'n nofel ddadleuol. Gwnaeth Elvey MacDonald gyhuddo'r awdur o lên ladrad gan ddefnyddio brawddegau air am air neu gyda ond ychydig o newidiadau o'i lyfr Yr Hirdaith. Trefnodd yr Eisteddfod Genedlaethol banel i ymchwilio i'r mater gan ddod i'r casgliad nad oedd gan Sian Eirian Rees Davies achos i'w ateb.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Nofel hanesyddol yw hi am y Cymry yn ymfudo i Wladfa Patagonia. Mae'n darlunio cymeriadau go iawn yr ymfudo megis Lewis Jones, ei wraig Ellen, ac Edwyn Cynrig Roberts. Mae'r awdur yn nodi yn ei chyflwyniad i'r nofel mai dychmygol yw'r holl gymeriadau ac mae wedi priodoli i'r cymeriadau nodweddion a digwyddiadau nad oes unrhyw sail hanesyddol iddynt ac mae rhai beirniaid wedi codi'r cwestiwn i ba raddau mae hawl gan awdur i wneud hyn. (Adolygiad ar wefan y BBC)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- Adolygiad ar wefan y BBC http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/adolygiadau/534-daniel.shtml