Herri Urrats

Oddi ar Wicipedia
Herri Urrats
Enghraifft o'r canlynolgŵyl Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.herriurrats.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Herri Urrats yn ŵyl a drefnir gan Seaska i gefnogi addysg Fasgeg. Mae'n digwydd yn ystod pythefnos cyntaf mis Mai bob blwyddyn o amgylch llyn ger pentref Senpere yn Lapurdi.

Defnyddir yr arian a gesglir i gefnogi ysgolion ikastola yng ngogledd Gwlad y Basg.

Ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, crëwyd y gwyliau cyntaf er budd ysgolion. Cynhaliwyd gŵyl Kilometrak am y tro cyntaf yn 1977, Ibilaldia yn 1978, a Nafarroa Oinez ac Araba Euskaraz yn 1981, cyn cynnal gŵyl Herri Urrats am y tro cyntaf yn 1984.[1] Yn wahanol i’r lleill, mae Herri Urrats yn digwydd yn yr un lle bob blwyddyn.

Roedd yr ŵyl gyntaf yn 1984 ac mae wedi cymryd lle bron bob blwyddyn ers hynny. Ni chafodd ei threfnu yn 2020 a 2021, oherwydd pandemig Covid-19, er i ŵyl fach gael ei chynnal yn 2021. Dychwelodd yr ŵyl yn 2022.[2] Yn 2024, cynhaliwyd y 41ain Herri Urrats gydag enfys yn thema.[3]

Fel gyda nifer o wyliau a mentrau eraill, mae cerddorion amrywiol wedi creu caneuon ar gyfer gŵyl Herri Urrats dros y blynyddoedd. Ymhlith eraill, mae Skunk, Oskorri, ETS, Xutik, Willis Drummond, Berri Txarrarak, Hemendik At, Xiberoots, 2Zio a Zetak wedi cyfansoddi cân yr ŵyl.

Dechreuad Herri Urrats[golygu | golygu cod]

Roedd rhieni'r gymdeithas Seaska yn teimlo bod yn rhaid gwneud rhywbeth. Cynigodd y tad ifanc Pierre Iturria trefnu gŵyl i godi arian i'r ysgolion. Pan ofynnwyd i faer Senpere, Germain Esponda, gael defnyddio'r safle, atebodd yn gadarnhaol, gan mai cymdeithas bentrefol ydoedd. Roedd Iturria yn cerdded yn ne Gwlad y Basg pan gafodd syniad logo'r ŵyl sydd ar ffurf esgid.[4]

Pan gynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 1984, roedd disgwyl y byddai dim ond tua 200 o bobl yn dod iddi, ond daeth 5,000 o bobl o dde Gwlad y Basg i gefnogi. Y flwyddyn ganlynol roedd 10,000, a gwelwyd hyd at 60,000 ar un adeg. Roedd 50 o bobl yn helpu gyda'r ŵyl gyntaf, ond erbyn 2022, roedd 1,500 o bobl yn rhan o'r gwaith trefnu (gan gynnwys parcio'r ceir).[4]

Yn y 1990au roedd mwy na 200 o fysiau'n cludo pobl i'r ŵyl. Bryd hynny, pobl o dde Gwlad y Basg yn bennaf oedd yn dod i'r ŵyl, ac roedd problemau ar y ffin bob blwyddyn. Wrth groesi'r ffin yn Hendaia, roedd heddlu'r De yn cadw'r bobl a oedd yn teithio i'r ŵyl tu mewn i'r bysiau. Treuliodd rhai dair awr ar y bws.

Yn y blynyddoedd cyntaf ychydig o bentrefwyr Senpere oedd yn mynychu'r ŵyl. Mae hyn wedi newid bellach, ac yn y 2010au roedd mwy o oedolion a phobl o'r ardal o'i gymharu â phobl ifanc o'r De.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Korrika - ras di-gystadleuaeth dros addysg Basgeg i oedolion trefnir gan yr AEK

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gaiak: Ikastolen Aldeko Jaien Historia - Euskonews" (yn eu), www.euskonews.eus, https://www.euskonews.eus/zbk/395/gaiak-ikastolen-aldeko-jaien-historia/ar-0395020006E/
  2. "Herri Urrats bueltan izango da 2022an azkenean", Argia, https://www.argia.eus/albistea/herri-urrats-bueltan-izango-da-2022an-azkenean
  3. elkartea, IPARLA BAIGURA KOMUNIKAZIOA (2024-05-13). "Euskararentzat ahalak emendatzera engaiatu da EEP Herri Urratsen". Kazeta.eus (yn Basgeg). Cyrchwyd 2024-05-18.
  4. 4.0 4.1 4.2 Eraso, Idoia (2022-05-06), "«Lehen urtean 200 pertsona espero ziren Herri Urratsen, 5.000 etorri ziren!»" (yn eu), GARA (Baigorri Argitaletxea), https://www.naiz.eus/eu/hemeroteca/gara/editions/2022-05-07/hemeroteca_articles/lehen-urtean-200-pertsona-espero-ziren-herri-urratsen-5-000-etorri-ziren

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]