Hayley Westenra
Appearance
Hayley Westenra | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Ebrill 1987 ![]() Christchurch ![]() |
Label recordio | Universal Music Group, Decca Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | artist stryd, canwr opera ![]() |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF ![]() |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth Celtaidd, operatic pop, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth yr oes newydd ![]() |
Math o lais | soprano ![]() |
Prif ddylanwad | Kate Bush ![]() |
Mae Hayley Dee Westenra (ganed 10 Ebrill 1987 yn Christchurch, Seland Newydd) yn soprano a Llysgennad i UNICEF. Cyrhaeddodd ei halbwm ryngwladol gyntaf, Pure rif un ar siart glasurol y Deyrnas Unedig yn 2003 ac mae wedi gwerthu dros dwy filiwn o gopïau yn rhyngwladol. Mae Westenra wedi derbyn nifer o wobrau am ei chyfraniad i gerddoriaeth, yn Seland Newydd a thramor. Ym mis Tachwedd 2008, cafodd ei henwi'n "berfformwraig clasurol y flwyddyn" yng ngwobrau blynyddol y Variety Club yn Llundain.[1]
Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]
Albymau[golygu | golygu cod]
Albymau rhanbarthol[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl yr Albwm | Nodiadau | Rhanbarth |
---|---|---|---|
2000 | Walking in the Air | "Demo" a gynhyrchwyd yn annibynnol | Seland Newydd |
2001 | Hayley Westenra | Ei halbwm stiwdio gyntaf | Seland Newydd |
2001 | My Gift to You | CD cerddoriaeth Nadoligaidd | Seland Newydd |
2004 | Wuthering Heights | Cyfeiriwyd ato fel "mini-album" yn ei hunangofiant | Siapan |
2006 | Crystal | Siapan | |
2007 | Amazing Grace - The Best of Hayley Westenra | Siapan | |
2007 | Prayer | Yn cynnwys caneuon na ryddhawyd yn flaenorol yn Siapan | Siapan |
2008 | Hayley sings Japanese Songs | Fersiynau Saesneg Westenra o ganeuon pop Siapaneg | Siapan |
2009 | Hayley sings Japanese Songs 2 | CD a DVD o ganeuon Siapaneg yn dilyn ei halbwm yn 2008 | Siapan |
Albymau rhyngwladol[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl yr albwm | Nodiadau |
---|---|---|
2003 | Pure | Ei halbwm gyntaf i gael ei rhyddhau tu allan i Seland Newydd ac Awstralia: aeth i frig y siart yn Seland Newydd, rhif 7 yn Awstralia a'r DU a rhif 70 yn yr Unol Daleithiau |
2005 | Odyssey | Rhyddhawyd ar yr 8fed o Awst yn Seland Newydd; rhyddhawyd 18 Hydref yn yr Unol Daleithiau; |
2005 | Live From New Zealand | Recordiad byw yn Seland Newydd |
2007 | Celtic Woman: A New Journey | Ymunodd Westenra â grŵp Celtic Woman yng nghynhyrchiad eu trydydd DVD, A New Journey |
2007 | Treasure | |
2008 | River of Dreams | Casgliad o ganeuon mwyaf poblogaidd Hayley Westenra o'i halbymau blaenorol, a rhai caneuon newydd. |
Senglau[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl y sengl | Rhanbarth |
---|---|---|
2003 | "Amazing Grace" | Siapan |
2005 | "Wiegenlied" | Siapan |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Westenra Wins UK Award[dolen marw] Yahoo Seland Newydd. Adalwyd ar 29-05-2009