Glandyfi

Oddi ar Wicipedia
Glandyfi
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5605°N 3.9242°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN695969 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Glandyfi ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Lleolir ger lan Afon Dyfi, ar ffordd yr A487 rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, a thri chwarter milltir i'r de o Orsaf Reilffordd Cyffordd Dyfi. Lleolir Castell Glandyfi gerllaw, a adeiladwyd ym 1810, yn agos i safle Castell Aberdyfi sy'n dyddio o 1156.[1]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Mae'n debyg mai Carreg neu Garreg oedd yr enw ar y cymuned hyd canol yr 19g, ond fe mabwysiadodd enw'r castell.[1][4]

Wal Fawr Glandyfi[golygu | golygu cod]

Arferai llifogydd gau'r ffordd yn rheolaidd, ychydig i'r gogledd o'r pentref. Oherwydd hyn a'r nifer o ddamweiniau ffordd, yn 2004 datguddiwyd cynlluniau er mwyn lledu a gwella'r ffordd yng Nglandyfi,[5]; yn 2007 trefnwyd pryniant gorfodol, codwyd y wal enfawr rhwng 2012 a 2013.[6] Costiodd y gwaith lledu a gwella 1.3 km o hyd £10 miliwn o bunnoedd, a ddaeth o goffrau Llywodraeth Cymru. Y pensaeri oedd Parsons Brinkerhoff.[7]

Mae'r llysenw 'Wal Fawr Glandyfi' yn parodio'r enw 'Wal Fawr Tsieina'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  Castle for keeps. Telegraph.co.uk (10 Mawrth 2008).
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4.  Richard (Dick) Knight Williams. Garreg, Ysgubor-y-Coed, Llanfihangel Capel-Edwin and Glandyfi. Gwefan "Dyfi Valley".
  5.  Plans for A487 at Glandyfi to go on show. News Wales (11 Mai 2004).
  6.  A487, Glandyfi improvements Compulsory Purchase and Side Roads Orders 2007 (Saesneg yn unig). Llywodraeth Cynulliad Cymru (8 Mawrth 2007).
  7. premierconstructionnews.com; teitl: New widening scheme brings Glandyfi up to speed; adalwyd 22 Mai 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: