Neidio i'r cynnwys

Gŵyl Caeredin

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Caeredin
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad diwylliannol, digwyddiad blynyddol, gŵyl, gŵyl gerddoriaeth Edit this on Wikidata
LleoliadCaeredin Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Caeredin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Perfformwyr yn Royal Mile

Cyfres o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghaeredin, yr Alban, bob blwyddyn ydy Gŵyl Caeredin. Trefnir y digwyddiadau hyn gan nifer o sefydliadau heb gysylltiadau ffurfiol rhyngddynt, sy'n golygu nad oes un digwyddiad unigol a enwir yn swyddogol yn "Ŵyl Caeredin", ond fe'u hystyrir hefyd yn un ŵyl ddiwylliannol, a honno'r fwyaf o'i math drwy Ewrop.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Gŵyl Caeredin yn tarddu o 1947, pan sefydlwyd Gŵyl Ryngwladol Caeredin (Saesneg: Edinburgh International Festival, EIF) mewn ymdrech ôl-ryfel i "ddarparu platfform ar gyfer blodeuo'r ysbryd dynol". Yr un flwyddyn, ymunodd wyth cwmni theatr yn answyddogol i'r gan drefnu eu digwyddiad eu hunain, a hynny allan o reolaeth swyddogol yr EIF; dechreuodd hynny'r mudiad a dyfodd yn Edinburgh Festival Fringe (EFF). Cyfeirir at yr EFF hefyd fel Fringe Caeredin, neu (yn anghywir) fel Gŵyl Fringe Caeredin.

Mae'r EIF a'r Fringe wedi parhau fel cyrff annibynnol ac yn trefnu rhaglenni bob blwyddyn. O'r gwahanol wyliau eraill sydd wedi eu sefydlu yn eu sgil, mae'r mwyafrif yn digwydd ddiwedd yr haf.