Neidio i'r cynnwys

Evelyn Sharp (ffeminist)

Oddi ar Wicipedia
Evelyn Sharp
Ganwyd4 Awst 1869 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 1955 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, awdur plant, swffragét, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
PriodHenry Nevinson Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Evelyn Sharp (4 Awst 1869 - 17 Mehefin 1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, awdur plant a swffragét. Roedd yn aelod blaenllaw a milwriaethus o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched a'r grŵp a alwent eu hunain yn 'Etholfraint Unedig' (United Suffragists), a gyd-sefydlodd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn olygydd y cylchgrawn Votes for Women. Gwrthodai dalu treth ac fe'i carcharwyd ddwywaith.[1]

Fe'i ganed yn Llundain ar 4 Awst 1869, bu'n briod i Henry Nevinson a bu farw yn Ealing. [2][3][4][5]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Evelyn Sharp, y nawfed o un-ar-ddeg o blant, ar 4 Awst 1869. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl am ddwy flynedd yn unig, ond llwyddodd i basio sawl arholiad yn y brifysgol. Yn 1894, yn erbyn dymuniadau ei theulu, symudodd Sharp i Lundain, lle ysgrifennodd a chyhoeddodd nifer o nofelau gan gynnwys All the Way to Fairyland (1898) a The Other Side of the Sun (1900).[6][7]

Yr awdur[golygu | golygu cod]

Yn 1903 dechreuodd Sharp, gyda chymorth ei ffrind a'i chariad, Henry Nevinson, ysgrifennu ar gyfer y Daily Chronicle, y Pall Mall Gazette a phapur newydd y Manchester Guardian, a gyhoeddodd ei gwaith am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Aeth Sharp ati i dynnu sylw at bwysigrwydd Nevinson a Chynghrair y Dynion ar gyfer Etholfraint Menywod (Men's League for Women's Suffrage), a mynnodd: "Mae'n amhosibl tanlinellu aberth Henry Nevinson, Laurence Housman, H. N. Brailsford, F. W. Pethick Lawrence, Harold Laski, Israel Zangwill, Gerald Gould, Gwnaeth George Lansbury, a llawer o rai eraill, i gadw ein mudiad yn rhydd o unrhyw awgrym mai rhyfel rhwng y ddau ryw ydyw."[8]

Yr ymgyrchydd[golygu | golygu cod]

Wedi iddi ymuno â'r UGCC, pryderai Jane, sef mam Evelyn, amdani; gwaneth iddi addo na fyddai'n gwneud unrhyw beth a fyddai'n arwain at ei charcharu. Er iddi ysgrifennu yn Votes for Women am Elsie Howey, wedi ei gwisgo fel Joan of Arc, merch ar geffyl gwyn yn arwain gorymdaith o gannoedd o swffragetiaid i gyfarfod yn Theatr Aldwych ar 17 Ebrill 1909, cadwodd Sharp ei haddewid am bum mlynedd, nes i'w mam ddiddymu'r addewid honno yn Nhachwedd 1911.[9]

Aeth Evelyn ati ar unwaith i weithredu, a daeth yn rhan o ymgyrch filwriaethus; yn ddiweddarach y mis hwnnw cafodd ei charcharu am un-deg-pedwar diwrnod.

Roedd Sharp yn aelod gweithgar o'r Women Writers' Suffrage League. Yn Awst 1913, mewn ymateb i dacteg y llywodraeth o gadw carcharorion a fyddai'n ymprydio, nes eu bod yn rhy wan i ddal ati, trwy "Ddeddf y Gath a'r Llygoden" arestiwyd Sharp. Cafodd Sharp ei ddewis i gynrychioli'r WWSL mewn dirprwyaeth i gwrdd â'r Ysgrifennydd Cartref, Reginald McKenna i drafod y Ddeddf hon. Roedd McKenna yn amharod i siarad â nhw a phan wrthododd y merched adael Tŷ'r Cyffredin, cafodd Mary Macarthur a Margaret McMillan eu lluchio o'r fan a'r lle, a chafodd Sharp ac Emmeline Pethick-Lawrence eu harestio a'u hanfon i Garchar Holloway.[6]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o aelodau mudiad y merched, roedd Sharp yn amharod i ddod a'r ymgyrch dros bleidlais i ben, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan barhaodd i wrthod talu ei threth incwm cafodd ei harestio ac atafaelwyd ei holl eiddo, gan gynnwys ei theipiadur. Fel heddychwraig, roedd Sharp hefyd yn weithgar yng Nghynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch yn ystod y rhyfel.

Dyfyniad[golygu | golygu cod]

Reforms can always wait a little longer, but freedom, directly you discover you haven't got it, will not wait another minute.[8]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'Behind the locked door': Evelyn Sharp, suffragette and rebel journalist", Angela V. John, Women's History Review, Cyfrol 12, Rhif 1, March 2003, tt. 5–13
  2. Cyffredinol: https://en.wikipedia.org/wiki/Evelyn_Sharp_(suffragist).
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  4. Dyddiad geni: "Evelyn Sharp (suffragist)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp (Nevinson)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: "Evelyn Sharp". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Evelyn Sharp (Nevinson)". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. 6.0 6.1 "The Spartacus Educational article". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-24. Cyrchwyd 2019-06-01.
  7. Adolygiad o Evelyn Sharp: Rebel Woman, 1869–1955 by Angela V. John and Unfinished Adventure by Evelyn Sharp, A. S. Byatt
  8. 8.0 8.1 Evelyn Sharp, Unfinished Adventure, 1933
  9. Atkinson, Diane (2018). Rise up, women! : the remarkable lives of the suffragettes. London: Bloomsbury. tt. 143, 313, 453, 559. ISBN 9781408844045. OCLC 1016848621.