Diwrnod Cenedlaethol Norwy

Oddi ar Wicipedia
Diwrnod Cenedlaethol Norwy
Enghraifft o'r canlynoldiwrnod cenedlaethol, gwyl genedlaethol Edit this on Wikidata
GwladBaner Norwy Norwy
Dechrau/Sefydlu1814 Edit this on Wikidata
GwladwriaethNorwy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Diwrnod Cenedlaethol Norwy neu Ddiwrnod Annibyniaeth Norwy yn ŵyl gyhoeddus swyddogol a gynhelir ar 17 Mai, yn flynyddol. Cyfeiria'r Norwyaid at y diwrnod fel Syttende mai ("Yr un-deg-seithfed o Fai"), Nasjonaldagen ("Diwrnod Cenedlaethol"), neu Grunnlovsdagen ("Diwrnod y Cyfansoddiad"), er bod yr olaf yn llai aml.

Bydd y Norwyaid yn aml yn dathlu gyda gorymdeithiau mawr gyda phawb wedi gwisgo yn eu gwisg arbennig (y bunad). Mae pobl yn bwyta cŵn poeth, wafflau a hufen iâ ac mae'r plant yn chwarae gemau buarth.[1]

Cefndir hanesyddol[golygu | golygu cod]

Arwyddwyd Cyfansoddiad Norwy yn Eidsvoll ar 17 Mai 1814. Yn rhyngwladol, dyma'r ail gyfansoddiad ysgrifenedig hynaf sy'n dal i gael ei ddefnyddio.[2] Datganwyd yn y cyfansoddiad fod Norwy yn deyrnas annibynnol mewn ymgais i osgoi cael ei hildio i Sweden ar ôl i Ddenmarc - Norwy gael crasfa yn Rhyfeloedd Napoleon. Sefydlodd hyn Undeb rhwng Sweden a Norwy.

Trondheim, Norwy

Dechreuodd dathliadau'r diwrnod hwn ar unwaith ymhlith myfyrwyr wedi hyn. Fodd bynnag, roedd Norwy bryd hynny mewn undeb personol â Sweden (yn dilyn Confensiwn Moss yn Awst 1814, a oedd yn rhannu brenhiniaeth fel cenhedloedd ar wahân) ac am rai blynyddoedd roedd Brenin Sweden a Norwy yn amharod i ganiatáu'r dathliadau. Am rai blynyddoedd yn ystod y 1820au, fe wnaeth y Brenin Siarl XIV John ei wahardd gan gredu bod dathliadau fel hyn yn fath o brotestio a hyd yn oed yn wrthryfel, yn erbyn yr undeb.[3] Newidiodd agwedd y brenin ar ôl Brwydr y Sgwâr yn 1829, digwyddiad a arweiniodd at y fath gynnwrf fel y bu'n rhaid i'r brenin ganiatáu seremoniau coffâu ar y diwrnod.

Fodd bynnag, nid tan 1833 y cafwyd anerchiadau cyhoeddus, a dechreuwyd dathlu'n swyddogol ger cofeb cyn weinidog y llywodraeth, sef yr arlunydd Christian Krohg, a dreuliodd lawer o'i fywyd gwleidyddol yn ffrwyno pŵer personol y frenhiniaeth.

Ar ôl 1864 daeth y diwrnod yn fwyfwy ran o'r sefydliad, a lansiwyd yr orymdaith gyntaf i blant yn Christiania - bechgyn yn unig ar y dechrau. Sefydlwyd y fenter hon gan Bjørnstjerne Bjørnson, er i Wergeland wneud yr orymdaith blant gyntaf, yn 1820, yn Eidsvoll. Dim ond yn 1899 y caniatawyd i ferched ymuno yn yr orymdaith. Ym 1905, diddymwyd yr undeb â Sweden a dewiswyd y Tywysog Carl o Ddenmarc i fod yn Frenin Norwy annibynnol, dan yr enw Haakon VII. Yn amlwg, daeth hyn i ben ag unrhyw bryder yn Sweden am weithgareddau'r Diwrnod Cenedlaethol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd Norwy dan feddiant y Natsïaid, gwaharddwyd y dathlaiadu'n llwyr, neu ddefnyddio lliwiau baner Norwy ar ddillad, hyd yn oed. Pan ryddhawyd Norwy ar 8 Mai 1945, daeth baner Norwy yn symbol amlwg o ryddid Norwy.

Gorymdeithiau plant[golygu | golygu cod]

Rhan o orymdaith Plant a elwir yn kindergarten. Yn y llun hwn, gwelir fod y Gákti, sef dillad traddodiadol y bobl Sami, yn cael ei ddefnyddio gan un o'r plant.

Agwedd nodedig ar Ddiwrnod Cyfansoddiad Norwy yw ei natur cwbwl anfilwrol. Ledled Norwy, gorymdeithiau plant gyda digonedd o faneri yw elfennau canolog y dathliad. Mae pob ardal ysgol elfennol yn trefnu ei pharêd ei hun[4] gyda bandiau gorymdeithio rhwng ysgolion. Nadredda'r orymdaith drwy'r gymuned, gan aros yn aml yng nghartrefi henoed, cofebion rhyfel, ac ati. Mae'r orymdaith hiraf yn Oslo, lle ceir tua 100,000 o bobl yn teithio i ganol y ddinas i gymryd rhan yn y prif ddathliadau. Darlledir hwn ar y teledu bob blwyddyn, gyda sylwadau ar wisgoedd, baneri, a symbolau cenedlaethol eraill, ynghyd ag adroddiadau lleol o ddathliadau ledled y wlad. Mae gorymdaith enfawr Oslo'n cynnwys tua 100 o ysgolion, bandiau gorymdeithio, ac yn mynd heibio'r palas brenhinol lle mae'r teulu brenhinol yn cyfarch y bobl o'r prif falconi.[5]

Russ[golygu | golygu cod]

Mae gan y dosbarth graddio o videregående (adran hynaf yr ysgol uwchradd uchaf, neu'r "chweched dosbarth") yr hyn a elwir yn russ, ei ddathliad ei hun ar 17 Mai, gyda'r disgyblion yn aros ar ddihun, drwy'r nos cyn mynd ati i fynd o amgylch y gymuned. Mae gan y russ hefyd eu gorymdeithiau eu hunain yn hwyrach yn y dydd, fel arfer tua 4 neu 5 pm. Yn yr orymdaith hon, byddant yn gorymdeithio drwy'r stryd gan gario arwyddion a baneri. Weithiau, byddant yn parodio amrywiol agweddau lleol a gwleidyddol, er bod hyn wedi dod yn llai aml yn ddiweddar. Mae gorymdeithiau russ yn digwydd yn anamlach yn ddiweddar oherwydd yr heddlu llym.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hurray! It's May 17!".
  2. "The Constitution". Stortinget (yn Saesneg). 2021-01-19. Cyrchwyd 2024-05-17.
  3. Stein Erik Kirkebøen (16 May 2008). "Kampen om toget". Aftenposten (yn Norwyeg). Cyrchwyd 21 Jan 2013.
  4. Mae gan yr iaith Norwyeg nifer o eiriau gwahanol ar gyfer y term Saesneg "parade": "Parade", sy'n cyfeirio at orymdaith debyg i filwrol, a "tog" neu "opptog", sy'n cyfeirio at bobl yn cerdded mewn llwybr rhagosodol. Yn Bergen, gelwir yr orymdaith yn "prosesjon" (gorymdaith).
  5. Celebrating May 17th Official website of the Royal House of Norway (in English)