Deniz Naki

Oddi ar Wicipedia
Deniz Naki

Naki yn 2012
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1989-07-09) 9 Gorffennaf 1989 (34 oed)
Man geniDüren, Gorllewin yr Almaen
Taldra1.76 m (5 ft 9 in)*
SafleCanolwr cae ymosodol
Y Clwb
Clwb presennolAmed SK
Gyrfa Ieuenctid
2001–2003anfwyd wrthFC Düren 77
2003–2005FC Düren-Niederau
2005–2007Bayer Leverkusen
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2007–2009Bayer Leverkusen II36(7)
2009→ Rot Weiss Ahlen (ar fenthyg)11(4)
2009–2012FC St. Pauli71(12)
2012–2013SC Paderborn 0723(2)
2013–2014Gençlerbirliği21(0)
2015–Amedspor12(1)
Tîm Cenedlaethol
2007–2008Yr Almaen dan 1915(9)
2008–2009Yr Almaen dan 206(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 11 Tachwedd 2014.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 22 Ebrill 2009

Mae Deniz Naki yn beldroediwr o dras Cwrdaidd a aned yn yr Almaen (ganed 9 Gorffennaf 1989), sy'n chwarae i Amed S.K. ar hyn o bryd.[1][2]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Naki ei yrfa gyda Bayer 04 Leverkusen, ond ni chafodd lwyddiant y tu hwnt i'r ail dîm.

Ar 2 Chwefror 2009, aeth ar fenthyg i Rot Weiss Ahlen, gan chwarae unarddeg gêm a sgorio pedair gôl. Ar 8 Chwefror, gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn yr ail adran, pan ddaeth i'r maes fel eilydd yn lle Marco Reus mewn gêm yn erbyn FC Augsburg.[3]

Ar 25 Mehefin 2009, gadawodd Naki Bayer Leverkusen ac arwyddo cytundeb tair blynedd gyda St. Pauli.  Ar 2 Tachwedd, ar ôl sgorio ail gôl ei dîm mewn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Hansa Rostock, achosodd gyn ddadlau pan ddathlodd drwy wneud arwydd 'torri-gwddf' tuag at gefnogwyr y gwrthwynebwyr.[4] Cyfranodd saith gôl wrth i St. Pauli ddychwelyd i'r prif adran.

Ar ôl cyfnod prawf aflwyddiannus gyda Nottingham Forest, symudodd Naki i SC Paderborn 07 yn haf 2012.

Yn nhymor 2013/14 ymunodd â chlwb Gençlerbirliği SK yn Ankara.[5] Ym mis Tachwedd 5, penderfynodd Naki adael Gençlerbirliği yn dilyn ymododiad hiliol honedig.[6][7] Dyweoddod Naki i dri dyn ymosod arno ar y stryd ym mhrifddinas Twrci gan weiddi pethau hiliol ato a'i herio ynglŷn â'i genfogaeth i'r dref Gwrdaidd Kobane y Syria, a oedd dan warchae gan y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS).[1][6][8][9]

Yn mis Chwefror 2016 cafodd Naki ei atal rhag chwarae am 12 gêm a dirwy fawr am ysgrifennu cofnod Facebook yn talu teyrnged i'r rhai a fu farw ac a anafwyd wrth amddiffyn ardaloedd Cyrdaidd rhag y Wladwriaeth Islamaidd.[10].

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Fel aelod o dîm Dan-19 yr Almaen cynrychiolodd Naki y wlad ym Mhencampwriaeth Dan-19 UEFA 2008, yn y Weriniaeth Siec.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 http://www.bbc.com/news/blogs-eu-29924670
  2. http://www.bbc.com/turkce/haberler/2014/11/141105_deniz_naki_rop
  3. "Tolles Solo von Großkreutz" (yn German). kicker. 8 Chwefror 2009. Cyrchwyd 18 Mawrth 2009. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "Cut-Throat: Deniz Naki (St. Pauli) provokes Rostock fans with an unsavoury gesture". 101 Great Goals. 3 Tachwedd 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-07. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2011.
  5. SC Paderborn: Wechsel von Deniz Naki zu Gençlerbirliği perfekt
  6. 6.0 6.1 http://www.theguardian.com/football/2014/nov/05/deniz-naki-turkey-genclerbirligi-racist-attack
  7. http://www.bild.de/sport/fussball/deniz-naki/ist-froh-wieder-in-deutschland-zu-sein-38431746.bild.html
  8. http://rudaw.net/english/middleeast/turkey/06112014
  9. http://www.hurriyetdailynews.com/alevi-german-turkish-footballer-decides-to-leave-turkey-after-attack.aspx?pageID=238&nID=73890&NewsCatID=361
  10. http://www.theguardian.com/football/2016/feb/05/turkish-player-12-match-ban-ideological-propaganda

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]