Chris Williams (academydd)

Oddi ar Wicipedia
Chris Williams
Ganwyd9 Mawrth 1963 Edit this on Wikidata
Griffithstown Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 2024 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethawdur, hanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol Edit this on Wikidata

Academydd o Gymro oedd yr Athro Chris Williams (9 Mawrth 19634 Ebrill 2024)[1][2]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith ar olygu dyddiaduron Richard Burton.[3]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Christopher Mark Williams yn Griffithstown, Sir Fynwy i Peter a Josephine Williams.[4] Treuliodd dair mlynedd cyntaf ei fywyd yng Nghasnewydd, ond symudodd ei deulu wedyn i Swindon, lle gwnaeth e Lefel O ac A. Treuliodd flwyddyn yn y fyddin cyn mynychu Coleg Balliol, Rhydychen.[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi graddio o Rhydychen, astudiodd am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dod yn ddarlithydd yno.[6]

Wedi hynny gweithiodd ym Mhrifysgol Morgannwg ac yn 2005 daeth yn Athro Hanes Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.[7] Roedd yn Gomisiynydd Brenhinol gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac yn Gadeirydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.[8] Yn 2013 dychwelodd i Brifysgol Caerdydd.

Roedd Williams yn Bennaeth Coleg y Celfyddydau, Astudiaethau Celtaidd a Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cork, Iwerddon, o 2017 i 2024.[9]

Yn 2016 fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.[10]

Ymchwil[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ei argraffiad o ddyddiaduron Burton gan Yale University Press.[11] Rhoddwyd y dyddiaduron i Brifysgol Abertawe gan weddw Burton, Sally Burton, yn 2006.[12][13] Ysgrifennodd yn helaeth ar Faes glo De Cymru a hanes Cymru fodern. Yn fwy diweddar ysgrifennodd ar hanes gartwnau a gwawdluniau gwleidyddol yng ngwledydd Prydain o'r 18 ganrif i'r Ail Ryfel Byd.[14]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â Siobhan hyd eu hysgariad yn 1993 a ganwyd mab iddynt. Ail-briododd i Sara (nee Spalding) yn 2003, a chawsant ddau fab.

Darlithiodd ar fynydda yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Roedd yn gerddwr brwd a dringodd La Breche De Rolland yn y Pyrenees Ffrengig, Ben Nevis, Yr Wyddfa a Pen-y-Fan.

Bu farw o drawiad ar y galon ar 4 Ebrill 2024.[15]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • B. L. Coombes (cyfres Writers of Wales) (gyda William D. Jones; 1999)
  • With Dust Still in His Throat: A B.L.Coombes Anthology (gyda Bill Jones; 1999)
  • Postcolonial Wales (golygydd, gyda Jane Aaron; 2005)
  • Robert Owen and his Legacy (golygydd, gyda Noel Thompson; 2011)
  • The Richard Burton Diaries (golygydd; 2012)
  • The Gwent County History, cyfr. 4 (golygydd, gyda Sian Rhiannon Williams; 2011)
  • The Gwent County History, cyfr. 5 (golygydd, gyda Andy Croll; 2013)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dai Smith (15 Ebrill 2024). "Yr Athro Chris Williams FLSW, 1963–2024". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 30 Ebrill 2024.
  2. "Yr Athro Chris Williams wedi marw'n 61 oed". Golwg360. 5 Ebrill 2024. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  3. "The Richard Burton Diaries ed by Chris Williams: review", The Telegraph, 28 October 2012. Accessed 10 November 2013
  4. "Chris Williams, Welsh historian best-known for editing Richard Burton's bestselling Diaries – obituary". The Telegraph. 13 May 2024. Cyrchwyd 13 May 2024.
  5. "Remembering Professor Chris Williams, Head of UCC College of Arts, Celtic Studies and Social Sciences". University College Cork. Cyrchwyd 11 April 2024.
  6. Honourable Society of Cymmrodorion. Accessed 10 November 2013
  7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Cork2
  8. 2012 Welsh Heritage Schools Initiative. Accessed 10 November 2013
  9. "Two major appointments for UCC", UCC News Archive, 2017 Press Releases, 11 April 2017. Accessed 9 December 2020
  10. "Chris Williams". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.
  11. Yale University Press. Accessed 10 November 2013
  12. Swansea University School of Arts & Humanities Archifwyd 2013-11-10 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 10 November 2013
  13. "The truth behind the great Richard Burton myth?", Wales Online, 13 Oct 2010. Accessed 10 November 2013
  14. UCC Research Profile: Chris Williams. Accessed 9 December 2020
  15. Morris, Jeremy (2024-05-15). "Chris Williams obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-05-15.