Calsit
Appearance
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | mineral species ![]() |
---|---|
Math | calcite group ![]() |
Yn cynnwys | calsiwm carbonad ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/Calcite.png/235px-Calcite.png)
Y ffurf sefydlog o'r mwyn calsiwm carbonad CaC03 ar y tymereddau a'r gwasgeddau sy'n bodoli ar wyneb y ddaear neu'n agos iddo, yw calsit. Mae ffurfiau eraill ar y mwyn, megis aragonit, yn troi'n galsit dros amser daearegol.
Mae calsit yn fwyn creu-creigiau o bwys; dyma brif gyfansoddyn calchfaen a'r rhan fwyaf o farmorau ac mae'n gyffredin mewn cregyn infertebratau. Mae ei grisialau gwyn neu lwyd yn meddu ar holltedd rhombohedrol perffaith, fel rheol.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.