Brythoniaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brython)
Tiriogaethau Prydain 500-700

Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Hanes[golygu | golygu cod]

Prydain ac Iwerddon ar ddechrau hyd at oddeutu 500 OC, cyn sefydlu teyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid.     Brythoniaid     Pictiaid     Gwyddelod

Brythoniaid cynnar[golygu | golygu cod]

Bu mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn ledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[1] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrian yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl on roedd rhain pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythoniaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[2]

Map bras o lwythau Cymru, ~48 OC

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[3] Rhoddir ddarlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabd y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederaliaeth o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[2] Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.[4]

Llun o Caradog, arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid

Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y Catuvellauni, ffoiodd Caradog i'r gorllewin lle arweinodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[5][6] Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw y derwyddon. Gadawodd y catrawd Rhufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwres i ymladd gyda thactegau guerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones a'r Astwriaid.[3] Ni choncwerwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[7]

Darlun gyfoes o Rufeiniaid yn lladd derwyddon ar Ynys Môn

Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Llwythol yn Caer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth dinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rhufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd ir Ordoficiad i wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[3] Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer lleng Caerllion a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rhufeinig yng Nghaerfyrddin.[8]

Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan gadawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r Frythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[3]

Oes y Seintiau[golygu | golygu cod]

Eglwys Llanbadrig
Bedd gwreiddiol Arthur, Glastonbury

Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniad yng Nghyngor Arles.[9] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn Eglwys Rufain ac Eglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[10]

Yn 440 OC dywed i Sant Padrig sefydlu eglwys yn Llanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir Eglwys Tyddewi heddiw.[11][12] Dywed Nennius i'r Brenin Arthur cael ei arwisgo ag arwyddlun frenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yn Caerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Glastonbury (dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd).[13] Yn ôl Rhygyfarch ap Sulien, gwnaed Dewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[14]

Teyrnasoedd cynnar Cymru[golygu | golygu cod]

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, a Brycheiniog. Yn y 5g symudodd Cunedda o Foryd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[15]

Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'r Cornoficiaid; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnas Gododdin, cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynlliw a Gwent) oedd Emrys Wledig ac mai Gwrtheyrn a sefydlodd Gwerthrynion (Rhwng Gwy a Hafren).[16]

Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ol brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd.[15] Dywed i Frwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[17] Llwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifenodd y gerdd enwog, y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro'n erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au;[15]

Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...

Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffáu ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[15]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature. 2021 [2020].
  2. 2.0 2.1 Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42. ISBN 978-0-631-13791-7.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
  4. Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. tt. 61, 179. ISBN 978-0-631-13791-7.
  5. Haywood, John (2014-07-10). The Celts: Bronze Age to New Age (yn Saesneg). Routledge. tt. 73–76. ISBN 978-1-317-87017-3.
  6. "Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33". www.perseus.tufts.edu. Cyrchwyd 2024-06-01.
  7. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 447.
  8. Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 21. ISBN 978-0-631-13791-7.
  9. Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge (yn Saesneg). C. Knight. 1837. tt. 2–17.
  10. "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). tt. 580–581. Cyrchwyd 2024-05-27.
  11. Cathrall, William (1860). A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay (yn Saesneg). t. 190.
  12. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock.
  13. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. tt. 62–63.
  14. Wade-Evans, Arthur W. (Arthur Wade) (1923). Life of St. David [microform]. Internet Archive. London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan. tt. 24–27, 32.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66. ISBN 978-1-84990-373-8.
  16. Watkin, Thomas (2007). The Legal History of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 32–35.
  17. Jewell, Helen M. (1994). The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 18. ISBN 978-0-7190-3804-4.