Bra

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y dilledyn yw hon. Am y ddinas yn yr Eidal gweler Bra (Yr Eidal).
Model yn arddangos bra.

Dilledyn is i fenywod yw bra (talfyriad o'r gair Saesneg brassiere, o'r gair Ffrangeg brassière) a ddefnyddir i gynnal y bronnau. Fel rheol mae'n cael ei wisgo gyda dilledyn is fel nicyrs.

Mae gan y bra - neu ddillad tebyg iddo - hanes hir. Arferai merched dosbarth uwch Groeg yr Henfyd wisgo darnau o lian wedi eu lapio o gwmpas y bronnau a'r cefn.[1] Dros y canrifoedd datblygwyd sawl math o ddilledyn i gynnal y bronnau, fel y corset er enghraifft, ond nid ymddangosodd y bra modern tan yn gymharol diweddar.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Muriel Barbier, Shazia Boucher, Les dessous féminins, Parkstone. 'Temporis', 2005 (ISBN 1859958095).


Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.