Blaidd Mawr Drwg
Enghraifft o'r canlynol | fictional wolf, archetype, folklore character, cymeriad llenyddol, cymeriad mewn comic ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | c. 4 g CC ![]() |
![]() |
- Gweler hefyd: Blaidd (mytholeg).
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Dore_ridinghood.jpg/220px-Dore_ridinghood.jpg)
Mae'r Blaidd Mawr Drwg yn gymeriad sy'n ymddangos mewn sawl chwedl i blant. Mae i'w cael yn enwedig yn y ddwy chwedl draddodiadol gyfarwydd Y Tri Mochyn Bach a chwedl Hugan Goch Fach. Yn y chwedlau hyn, ac eraill, mae'n ymgorffori ynddo ei hun perygl, yr anghyfarwydd neu'r diarth, y Byd Mawr tu hwnt i gynefin y plentyn, a chosb am anufuddhau.
Ffilmiau animeiddiedig[golygu | golygu cod]
I ryw raddau, mae cymeriadau Will E. Coyote a Sylvestre yn y cyfresi ffilmiau animeiddiedig Looney Tunes gan y Brodyr Warner yn dwyn rhai nodweddion cymeriad y Blaidd Mawr Drwg. Mae'r ffilmiau am gymeriad Sylvester yn cynnwys addasiad o chwedl Hunan Goch Fach.
Ceir enghraifft arall yn ffilmiau animeiddedig Tex Avery. Yno mae'r blaidd yn sefyll am y Dyn ystrydebol : yn ferchetwr, bragiwr, ac yn gnaf, heb gydwybod o gwbl.
Yn 1933 cynhyrchodd Cwmni Disney fersiwn animeiddiedig o'r Tri Mochyn Bach fel rhan o'r gyfres Silly Symphonies; datblygwyd cymeriad y blaidd gan Disney i greu cymeriad "drygionus" sy'n ymddangos mewn nifer o ffilmiau byr wrth yr enw "Big Wolf".