The Michelin Guide

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arweinlyfr cyntaf Michelin Red ar gyfer Gogledd America - Dinas Efrog Newydd 2006

Mae The Michelin Guide yn gyfres o arweinlyfrau blynyddol a gyhoeddir gan Michelin mewn dros dwsin o wledydd. Mae'r term yn cyfeirio at y Michelin Red Guide, yr arweinlyfr gwestai a thai bwyta Ewropeaidd hynaf a mwyaf adnabyddus, sy'n gwobrwyo sefydliadau gyda "Sêr Michelin". Mae Michelin hefyd yn cyhoeddi Green Guides ar gyfer teithio a thwristiaeth, yn ogystal â nifer o gyhoeddiadau mwy newydd megis y "Guide Voyageur Pratique" (i'r teithiwr annibynnol), "Guide Gourmand" (bwytai da am bris rhesymol), "Guide Escapade" (seibiau byr) a "Guide Coup de Cœur" (gwestai o gymeriad).